Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , DAVID ( 1813 - 1894 ), gweinidog Annibynnol ac esboniwr Beiblaidd ; g. yn ymyl Dinbych-y-pysgod , sir Benfro , mab William Thomas , gweinidog Annibynnol . Wedi gorffen ei ysgol bu mewn galwedigaeth fasnach ac yn athro ysgol a gwasnaethu eglwysi'r cylch fel pregethwr ar y Sul. Cafodd gwrs disglair yng Ngholeg Newport Pagnell . Ordeiniwyd ef yn weinidog yn yr eglwys Annibynnol yn Chesham yn 1841 , symudodd i Stockwell , Llundain , yn 1844 , a gweinidogaethodd yno hyd 1877 , pryd yr ymddeolodd. Cafodd weinidogaeth hynod o eithriadol yn Stockwell ; tynnai ei bregethau esboniadol gynulleidfaoedd mawr, a daeth yn esboniwr Beiblaidd mwyaf poblogaidd ei gyfnod. Ei brif weithiau oedd: A Biblical Liturgy , 1856 ; Augustine Hymn Book , 1866 ; yn cynnwys rhai o'i emynau ei hun; The Crisis of Being , 1849 ; Homiletic Commentary on St. Mathew , 1864 ; Homiletic Commentary on the Acts , 1870 ; Problemati Mundi , 1878 . Cyhoeddwyd ei holl weithiau yn naw o gyfrolau, 1882-9 . Ei brif gyfraniad i lenyddiaeth Feiblaidd oedd The Homilist , 50 o gyfrolau. Bu f. 30 Rhagfyr 1894 yn Ramsgate . Mab iddo oedd REES THOMAS ( 1839 - 1901 ), a fu'n llywydd y ‘ Congregational Union ’ yn 1895 ( Congl. Year Book , 1902 ).

Llyfryddiaeth:

  • The Congregational Year Book , 1846 ff , 1896 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • The Times , 1 Ionawr 1895 ;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 9274.

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS , DAVID ( 1813 - 1894 ; Bywg. , 884) Yn ail linell yr ail golofn darllener cadeirydd (nid ‘ llywydd ’).