THOMAS, DAVID (1739?-1788), meddyg esgyrn;
g. yn y Cwrt, Pembre, sir Gaerfyrddin. Efe oedd yr enwocaf o deulu a fu'n boblogaidd am flynyddoedd lawer fel meddygon esgyrn ac a enillodd hyder nifer fawr o'u cyfoeswyr. Yr oedd yn feddyg esgyrn wrth synnwyr naturiol yn hytrach nag oblegid ei ddysgeidiaeth yn yr alwedigaeth honno. Bu f. 25 Mai 1788 yn 49 mlwydd oed.
Awdur:
Dr Moelwyn Idwal Williams, M.A., Aberystwyth