THOMAS, DAVID (bu f. 1735), bardd.
Dywed Edward Evan [q.v.] mai o Geredigion yr hanoedd, ac iddo ddyfod i Forgannwg yn 1727 — yn ôl ‘Iolo Morganwg’ yr oedd y pryd hynny rhwng 12 a 15 oed. Ymsefydlodd ym Metws Tir Iarll; yr oedd yn aelod o gynulleidfa Rees Price, Tyn-ton; tua 1730 dechreuodd brydyddu dan hyfforddiant John Bradford [q.v.], ac yn 1734 y mae Bradford yn ei enwi ymhlith ‘gramadegwyr’ Morgannwg. Ond cyn 1734 yr oedd wedi priodi (yn anffortunus, meddai Edward Evan) a symud i blwyf Ystrad Dyfodwg, gan fyw ym Mhandy'r Ystrad; bu f. yno yn 1735. Y mae rhai englynion ganddo yn y gyfrol o waith Lewis Hopkin [q.v.], Y Fêl Gafod. Gadawodd hefyd drosiad ar fesur cywydd o Lyfr y Pregethwr, pennod i, a roes gychwyn i'r trosiad o'r holl lyfr, 1767, gan Lewis Hopkin ac Edward Evan (Llyfryddiaeth y Cymry, 497).
Llyfryddiaeth:
- G. J. Williams, Tradd. Llen. Morgannwg, yn bennaf 228, 244-5, 279, ond gw. y fynegai hefyd.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.