Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS, BENJAMIN (1723-1790), pregethwr gyda'r Annibynwyr a chynghorwr Methodistaidd. Un o ogledd Penfro neu dde Ceredigion ydoedd. Aeth i'r Gogledd yn athro cylchynol yn 1741 ac erlidiwyd ef yno. Dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid, a phenodwyd ef yn gynghorwr cyhoedd yn sasiwn Watford, 1743 — gelwir ef yn ‘licensed Dissenting Minister’ yn y cofnodion, ond prin ei fod yn ordeiniedig, o'r hyn lleiaf nis enwir felly yn H. Egl. Ann. Bu yn y Gogledd drachefn yn 1743 ac erlidiwyd ef ym Môn. Penodwyd ef yn gynorthwywr i Howel Harris fel arolygwr dros Gymru yn sasiwn Porth-y-rhyd — ‘my assistant’ y geilw Harris ef yn ei ddyddiadur. Anfonwyd ef i'r Gogledd yn 1748, a chrybwyllir amdano yn 1749 fel un o brif genhadon y Methodistiaid yng Ngwynedd. Aeth i sasiwn Llanidloes, 1750, ac ochrodd gyda Daniel Rowland yn yr ymraniad. Cyfarfu Harris ag ef yn sasiwn Castellnewydd Emlyn, 1764. Ceir ‘Benjamin Thomas, near Cardigan’ ymhlith tanysgrifwyr sir Benfro i Tair Pregeth D. Rowland, 1772, ond yn rhestr sir Benfro o danysgrifwyr Pum Pregeth, 1772, ‘near Llechryd’ sydd ar gyfer ei enw. Enwir ef ymhlith y cynghorwyr yn sasiynau Llangeitho, 1778 a 1783. Y mae ei fedd ar bwys beddau Dafydd ac Ebenezer Morris ym mynwent Tredrëyr, a dywedir ar y maen iddo farw 12 Ebrill 1790, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd yn bregethwr grymus a theimladwy.

Llyfryddiaeth:

  • Cylch. Cymd. Hanes M.C., i, 23; xi, 48, 58; xxv, 12-13, 21, 102; xxvi, 78; xxviii, 38; xxxi, 25, 28; xxxii, 72;
  • R. Bennett, Meth. Tref. Uchaf, 127, 171-2;
  • R. Owen, yn Er Clod, 46;
  • Robert Jones (Rhoslan), Drych yr Amseroedd, 83;
  • Y Traethodydd, 1883, 148-9;
  • John Pritchard, Meth. Môn, 25;
  • Hanes Meth. Cymru, i, 487-8; ii, 293, 304, 337;
  • Tadau Meth., i, 234-5;
  • Evans, Trydydd Byr-Gofiant, 111-3.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe