Yn rhan gyntaf ei yrfa (sef hyd 1906) gwleidyddiaeth oedd gwir ddiddordeb D. A. Thomas. Daeth allan ar ben y rhestr bedair gwaith fel ymgeisydd Rhyddfrydol etholaeth seneddol Merthyr Tydfil. Eithr ni ddaeth llwyddiant i'w ddilyn yn Westminster a phan na chafodd swydd gan Campbell-Bannerman ar ôl llwyddiant eithriadol y Rhyddfrydwyr yn 1906, fe'i siomwyd yn fawr, a chanolbwyntiodd ei holl ynni ar y Cambrian Collieries. Bellach, gan nad oedd i brofi ffrwythau gwasanaeth gwleidyddol, casglu ffortiwn oedd y nod, ac ymhen ychydig flynyddoedd arweiniodd cyfres o bryniadau peniog i sefydlu y Cambrian Combine gyda chyfalaf o ddwy filiwn o bunnau. Yr oedd ei anian gref fel cyfalafwr a'r blas a gâi mewn dadl dost â'i wrthwynebwyr yn peri mynych ffrae rhyngddo ef ac arweinwyr y South Wales Miners’ Federation. Yr oedd ganddo, ac yntau bellach yn un o brif benaethiaid diwydiant, gynlluniau mawrion — cael cydweithrediad a chyduniad rhwng cwmnïau diwydiannol mawr yn America a Phrydain a chreu masnach rhwng y wlad hon a mannau anghysbell yng ngogledd-orllewin Canada. Eithr nid adeiladu ymerodraeth ym myd busnes, fodd bynnag, a ddug iddo'r hawl bennaf i enwogrwydd. Anfonwyd ef i Unol Daleithiau America gan D. Lloyd George ar genhadaeth bwysig yn 1915, a dyrchafwyd ef i'r bendefigaeth wedi hynny; ym mis Rhagfyr 1916 dewiswyd ef yn llywydd y Bwrdd Masnach, ac ym mis Mehefin 1917 daeth yn bennaeth (‘controller’) adran bwyd. Trwy hyn dychwelodd D. A. Thomas at ei gariad cyntaf — gwleidyddiaeth — a bu'r unigolwr pybyr yn llwyddiant eithriadol fel pensaer arbrawf sosialaidd fawr, sef dogni bwyd cenedl gyfan. Bu f. o glefyd y galon, 3 Gorffennaf 1918, yn ei gartref, Llanwern, sir Fynwy.
Yr oedd gan is-iarll Rhondda awch cryf bachgen ieuanc at fywyd a gallu anghyffredin i drin dynion. Nid oedd derfyn ar ei frwdfrydedd — parhaodd trwy gydol ei oes i gadw'r hoffter o chwilio am nythod adar a'i nodweddai pan oedd yn fachgen ieuanc yn Ysgubor-wen. Ar wahân i'r dylanwad eithriadol fawr a enillodd ar ddatblygiad maes glo De Cymru, nid ymddiddorodd ym mywyd cenedlaethol Cymru fel y cyfryw. Yr oedd yn wir unigolwr Victoriaidd; iddo ef twrnamaint yn cynnig gwobrwyon gwiw a disglair i'r gŵr anturiaethus ydoedd bywyd. Fe'i cofir yn arbennig am ei weinyddiad meistraidd ar adnoddau bwyd Prydain yn ystod blwyddyn dywyllaf rhyfel 1914-9. Heblaw ei gyfraniad ar ‘The Coal Trade’ i Cox, British Industries under Free Trade, 1903, cyhoeddodd D. A. Thomas yn 1896 Some Notes on the Present State of the Coal Trade, ac, yn 1903, The Growth and Direction of Our Foreign Trade in Coal (1850-1900), a gafodd ‘fathodyn Guy’ y Royal Statistical Society, ac a ddiwygiwyd yn ddiweddarach hyd y flwyddyn 1913.
Yr Athro Brinley Thomas, Ph.D., (1906-94), Caerdydd