TATHAN (Tathai, Llad. Tatheus) , sant, fl. yn y 5ed g.
Ceir ei fuchedd yn y B.M. MS. Cotton Vespasian A. xiv; ym muchedd Cadog, lle'r ymddengys hefyd, enwir ef Meuthi (yr un ydyw'r ddau enw; ymddangosant yn wahanol oherwydd atodi'r blaenddodau anrhydeddus ‘mo’ a ‘to’ a'r olddodiad anwesog ‘an’). Ganed ef, fe ddywedir, yn Iwerddon, yn fab y brenin Tathalius (Tuathal). Y mae dyddiad Tuathal Maelgarb (532-544) yn rhy ddiweddar; y mae'n bosibl i'r Tathalius hwn deyrnasu, nid yn Iwerddon, ond ymhlith Gwyddyl Gogledd Cymru. Chwedlonol ydyw'r mwyafrif o'r manylion a geir yn y fuchedd, ond y mae'n glir mai yng Ngwent yr ymsefydlodd Tathan, ac i Garadog, brenin y ddwy Went, roddi iddo dir yng Nghaerwent, ac iddo yntau sefydlu yno ysgol a mynachlog. Yr oedd Cadog, mab y brenin Gwynllyw [q.v.], yn ddisgybl iddo. 26 Rhagfyr yw ei ddydd gŵyl (ond yn yr English Martyrology 23 Tachwedd). Ef yw nawddsant Caerwent, ac, yn ei enw Meuthi, y ddiflanedig Lanfeithin ym mhlwyf Llancarfan.
Llyfryddiaeth:
- Bangor Welsh MSS. Soc., ii, 1907, Vita Sancti Tathie and Buched Seint y Katrin;
- Wade-Evans, Welsh Christian Origins, 1934, 118-9;
- Baring-Gould and John Fisher, Br. SS., 1907-13, iv, 211-4.
Awdur:
Syr Harold Idris Bell, C.B., D.Litt., Ll.D., F.B.A., F.S.A., (1879-1967), Aberystwyth