Fel y gwelir y mae hanes ei yrfa (a geir yn llawn yn y D.N.B. , etc.) ynghlwm â hanes Prydain . Pan briododd, yn haf 1708 , y dechreuwyd y cyswllt â Chymru . Ei wraig oedd Cecil , merch Charles Mathew , Castell Menich , sir Forgannwg , ŵyres ac aeres y barnwr David Jenkins [q.v.] , Hensol . Adeiladodd gastell ar y dull Tuduraidd yn Hensol , castell y gwnaeth ei fab ychwanegiadau ato yn ddiweddarach. Dyrchafwyd yr arglwydd-ganghellor i'r bendefigaeth ar 5 Rhagfyr 1733 . Bu f. 14 Chwefror 1736/7 .
Dilynwyd y barwn Talbot 1af gan ei ail fab, WILLIAM TALBOT ( 1710 - 1782 ), ail farwn Talbot , stiward y teulu brenhinol ; daeth yn iarll Talbot yn 1761 . Pan fu ef f. yn 1782 darfu am yr iarllaeth ac aeth y farwniaeth i'w nai, JOHN TALBOT , a grewyd yn iarll Talbot o Hensol (y 1af) yr un pryd; mab iddo ef oedd y Syr CHARLES TALBOT , ail iarll Talbot o Hensol — y ceir ei hanes yntau hefyd yn y D.N.B.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth