Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SYMONDS , RICHARD ( 1609 - ? ), pregethwr Piwritanaidd ; g. yn y Fenni , 1609 , mab Thomas Symonds (a pherthynas, mae'n ddiau, i'r Nicodemus Symonds a oedd yn un o brif ddinasyddion y dref ). Cafodd ei addysg yn Rhydychen , Coleg Exeter , ymaelodi yn 1627 , B.A. 1629 . Dywaid Baxter ei fod, tua 1635 , yn cadw ysgol yn Amwythig , a'i fod ef yn ddisgybl iddo, ac i Symonds roddi noddfa i Walter Cradock [q.v.] pan orfu arno ffoi o Wrecsam . Yn 1638-9 cafodd amryw Biwritaniaid , gan gynnwys Richard Symonds , loches gan Syr Robert Harley a'i wraig Brilliana yn Brampton Bryan . Pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan clywir amdano yn ninas Bryste , yn pregethu yn Andover , ac am dymor yn dal bywoliaeth Sandwich yng Nghaint . Yn 1646 penderfynodd y Senedd wneud ymgais i efengyleiddio De Cymru drwy anfon tri o genhadon yno — Henry Walter , Walter Cradock , a Richard Symonds — y tri i bregethu yn Gymraeg , a'r tri i gael canpunt y flwyddyn yr un allan o fuddiannau'r deoniaid a'r cabidyliai a ddadwaddolwyd. Yn 1646 (30 Medi) a 1648 (26 Ebrill) gofynnwyd i Symonds bregethu o flaen Tŷ'r Cyffredin , ac yn nechrau 1650 penodwyd ef yn un o'r 25 profwr o dan Ddeddf y Taeniad . Yn sir Forgannwg y gweithiodd fwyaf fel pregethwr a phrofwr yn y cyfnod hwn; ac ni chlywir fawr ddim amdano hyd nes i'r ‘ Triers ’ yn 1657 roddi eu bendith arno i ‘ ddarlithio ’ yn eglwys gadeiriol Llandaf . Nodyn go faterol yw hwnnw yn un o lawysgrifau'r Bodleian iddo dalu £550 am ran o'r tiroedd a berthynai unwaith i'r esgob . Er bod Symonds yn un o'r Piwritaniaid amlycaf yng Nghymru yn ystod y rhyfeloedd a'r Taeniad , ni ellir osgoi'r casgliad iddo suddo i ddinodedd cymharol ym mlynyddoedd olaf y Weriniaeth , a marw'n ddi-sôn-amdano cyn 1660 ; beth bynnag, ni chlywir gair amdano yng nghyfnod yr Adferiad .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • The Journals of the House of Lords , viii, 568-9;
  • The Journals of the House of Commons , iv, 678; v, 545;
  • MS. J. Walker , c. 13 (17, 31);
  • Lambeth MS. 995, 113;
  • Llawysgrif Rawlinson yn Llyfrgell Bodlean, Rhydychen. B. 239 (29) (rhif 378).

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor