SYMMONS
(TEULU),
Llanstinan
,
sir Benfro
;
SYMMONS
,
JOHN
(
1701
-
1771?
),
aelod seneddol Aberteifi
;
mab
John
Symmons
,
Llanstinan
, (
siryf
sir Benfro
,
1713
), a
Martha
, merch
George
Harries
,
Tregwynt
; g.
12 Medi 1701
. Methodd â chael ei ddewis yn
aelod seneddol
sir Benfro
yn
1741
eithr llwyddodd i gael cynrychioli
Aberteifi
yn
1746 (20 Mawrth)
; daliodd y sedd
hyd 1761
. Rhoes
gymorth ariannol tuag at atgyweirio eglwys Aberteifi
ac ailfwrw ac ailosod ei chlychau yn
1748
(
Meyrick
,
Hist. of County of Cardigan
). Yr oedd yn
gyd-ysgrifennydd
y ‘
Society of Sea Serjeants
’ yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn
Abertawe
ar
13 Mehefin 1752
. Bernir mai ef yw'r
John
Symmons
a fu f. yn
George Street
,
Hanover Square
,
Llundain
,
7 Tachwedd 1771
.
Mab iddo oedd
CHARLES
SYMMONS
(
1749
-
1826
),
clerigwr a llenor
;
g. yn nhref
Aberteifi
(medd
Asaph
). Bu yn
Ysgol Westminster
(
14 Ionawr 1765
), prifysgolion
Glasgow
,
Caergrawnt
(
B.D.
1786
), a
Rhydychen
(
D.D.
1794
). Ordeiniwyd ef
c.
1775
, cafodd
reithoraeth
Arberth
(gyda
Robeston
),
sir Benfro
,
1778
, a'i ddewis yn
brebend
Clydau
yn
eglwys gadeiriol Tyddewi
,
11 Hydref 1789
; trwy gymorth ei gyfaill
William
Windham
cafodd (yn
1794
)
reithoraeth
Llanbedr Efelffre
yn ychwanegol at un
Narberth
. Priododd,
1779
,
Elizabeth
(bu f.
1830
), merch
John
Foley
,
Ridgeway
,
sir Benfro
, a chwaer
Syr
Thomas
Foley
[q.v.]
. Ymhlith pum plentyn y briodas yr oedd
Caroline
(isod) a
John
(isod). Bu f.
27 Ebrill 1826
yn
Bath
.
Ceir manylion llawnach am yrfa
Symmons
yn y
D.N.B.
O
1787
ymlaen bu'n brysur yn
cyhoeddi llyfrau
— rhai ohonynt yn bregethau, gan gychwyn gyda phregeth a argraffwyd yn
1787
; pregeth a draddododd yng
Nghaergrawnt
a barodd iddo symud o'r brifysgol honno, ac yntau ar fin cymryd ei
D.D.
, i
Goleg Iesu
,
Rhydychen
(
24 Mawrth 1794
), lle y derbyniwyd ef yn
D.D.
ddeuddydd yn ddiweddarach.
Cafwyd mwy nag un argraffiad o rai o'r llyfrau a enwir isod: (
a
)
Inez
,
1796
, trasiedi; (
b
)
Constantia
,
1800
, cân ddramatig; (
c
)
Life of Milton
,
1806
; (
ch
)
Poems by Caroline
(ei ferch)
and Charles Symmons
,
1812
— bu
Caroline
f. o'r
darfodedigaeth
1 Mehefin 1803
; (
d
)
The Aeneis of Virgil translated
,
1817
; (
dd
)
Life of Shakespeare
,
1826
.
Mab iddo oedd
JOHN
SYMMONS
(
1781
-
1842
)
,
a fu yn
Ysgol Westminster
, yn
Christ Church
,
Rhydychen
(ymaelodi
11 Ebrill 1799
,
B.A.
1803
,
M.A.
1806
), ac a ddaeth yn
fargyfreithiwr
(
Lincoln's Inn
),
24 Tachwedd 1807
, a dewis ymarfer yng
nghylchdaith Cymru
.
Cyfieithodd
Agamemnon
Æschylus
a bu'n cynorthwyo ei dad i
gyfieithu
gwaith
Fersil
. Bu f. yn
1842
, yn
Deal
o bosibl.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
, a'r cyfeiriadau a roddir yno;
-
W. R. Williams
,
The History of the Parliamentary
Representation of Wales
, 1895
;
-
James Allen
,
Notes on the Sheriffs of Pembrokeshire,
1541-1899
, Dinbych, 1900
;
-
Richard Fenton
,
A Historical Tour through
Pembrokeshire
(arg.
1903
), 188-9.
Awdur:
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952),
Aberystwyth