SULIEN, ' Sulgenus,' a gyfenwid ' Y Doeth,' 1011 - 1091

Enw: Sulien
Dyddiad geni: 1011
Dyddiad marw: 1091
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Hopkin Davies

Ganwyd yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion, o dras uchel - teulu clerigol, y mae'n debyg. Wedi iddo gael addysg am gyfnod maith mewn ysgolion Cymreig, Sgotaidd (pum mlynedd) a Gwyddelig (13 blynedd), dychwelodd i'w gynefin, sef Ceredigion, ac ennill enwogrwydd mawr fel athro ac fel ysgolhaig (gweler isod am y llawysgrifau Lladin a ysgrifennwyd o dan ei ysbrydiaeth). Yn ddiweddarach yn ei oes dewiswyd ef yn esgob Tyddewi o 1072/3 hyd 1078 ac eilwaith o 1080 hyd 1085; dilynwyd ef gan Wilfre, esgob annibynnol olaf Tyddewi. Bu farw yn 1091, yn 80 mlwydd oed, ac yn enwog am ei ddoethineb a'i gyraeddiadau fel ysgolhaig. Ef ei hunan a fu'n arwain cwrs addysg ei bedwar mab - Rhygyfarch, ARTHEN, DANIEL, a IEUAN; y mae pwysigrwydd llenyddol a dylanwad yr hyn y gellir ei alw yn ' Ysgol Sulien ' yn hawdd ei ganfod. Bu Ieuan, prif offeiriad ('arch-presbyter') Llanbadarn, farw yn 1137; gadawodd ef ar ei ôl, heblaw lluniau goreuredig mewn llawysgrif yn cynnwys gwaith Jerôm, gopi sydd eto ar gael yn ei lawysgrifen ef ei hun o ' De Trinitate ' Awstin - ar rai o ddalennau'r gyfrol hon ysgrifennodd y copïydd gân fer yn Lladin am Sulien a'i deulu. Ni wyddys ddim am Arthen, eithr y mae'n debyg mai mab iddo, oedd yr ysgolhaig HENRY ab ARTHEN (bu farw 1163). Daeth Daniel (bu farw 1127) yn archddiacon Powys, a'i fab yntau, CYDIFOR (bu. farw 1163), yn archddiacon Ceredigion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.