Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



STRADLING (TEULU), sir Forgannwg . Daw'r Stradlingiaid gyntaf i'r golwg yn Lloegr ar derfyn y 13eg g. Ni ellir eu holrhain i'r cyfnod Normanaidd . Hwyrach mai o Strättligen ger Thun yn yr Yswistir y daethant. Fe'u ceir ymhlith cydnabod a thylwyth Syr Odo de Granson (neu Grandison ) , cyfaill mynwesol Edward I , a'i gadfridog ym Môn yn y rhyfeloedd yn erbyn Llywelyn , a phrif ustus Gwynedd am rai blynyddoedd wedi 1284 . Yr oedd Syr JOHN DE , STRADELINGES , neu ESTRATELINGES , a gyfenwid hefyd yn Rousselet , yn nai i Syr Odo . Yr oedd iddo diroedd yn Berkshire a Warwickshire , a diddordebau yn Iwerddon . Bu f. 1293 . Aeth MATILDA a MARGARET DE gyda'r dywysoges Margaret i Brabant yn 1297 . Yr oedd Syr PETER DE STRATELINGES yn aelod o osgordd Syr Odo , ac ef oedd y cyntaf i ymsefydlu ym Morgannwg .

Gwraig Syr PETER DE STRATELINGES oedd JOAN DE , neu HALWEIA , aeres Sain Dunwyd ym Morgannwg , Cwm Hawey yng Ngwlad yr Haf , ac etifeddiaethau eraill yn neheudir Lloegr . Yr oeddynt ill dau yn Iwerddon yn 1298 . Y mae'n ddigon posibl mai'r un gŵr ydoedd Syr Peter de Straddeley y gorchmynnwyd iddo drosglwyddo Castell Nedd i Wallter Hakelute yn 1297 . JOHN DE a ddaliai faenor Sain Dunwyd yn 1314-5 , ond erbyn 1316 pen y teulu ar ddeutu Hafren oedd EDWARD STRADLYNG , a urddwyd yn farchog yn 1327 . Priodasai ef Elen , ferch ac aeres Syr Gilbert Strongbow (brawd iarll Penfro ), cyn 1317 . Gorchmynnwyd iddo gymryd eiddo Hugh le Despenser ym Morgannwg yn 1330 . Yn 1337 yr oedd yn dyst yng Nghaerdydd i weithred trosglwyddo tir i abaty Tewkesbury . Daliai swyddi cyhoeddus yng Ngwlad yr Haf a Dorset , a bu'n aelod seneddol dros Wlad yr Haf yn 1343 . Ef oedd un o brif noddwyr abaty Nedd yn y 14eg g. , ac ymrwymodd y cwfent yn 1341 i gynnal ei goffadwriaeth dros byth. Daliai faenor Sain Dunwyd yn 1349 , ond anodd yw gwahaniaethu rhyngddo ef a'i fab EDWARD STRADLYNG yng nghofnodion blynyddoedd canol y ganrif. Yr oedd y tad yn fyw yn 1352 o leiaf. Gwraig y mab oedd Gwenllian , ferch Syr Rhosier Berkerolles , ac etifeddes ei brawd, Syr Lawrence . Mab iddynt hwy oedd Syr WILLIAM STRADLING . Yr oedd ef yn wystl dros brior Ewenni yn 1400 , ac ar gomisiwn ynglŷn ag eiddo Cymry o fyddin Owain Glyndŵr a gludwyd i Wlad yr Haf a Dorset , 1403-5 . Aeth ar bererindod i Gaersalem yn 1408 , a bu f. cyn 1412 , oherwydd ei weddw, Elisabeth , a ddaliai Gwm Hawey yn y flwyddyn honno. Yn ôl G. T. Clark , Isabel St. Barbe oedd ei wraig. Ei ail fab oedd Syr JOHN STRADLING a briododd Joan , etifeddes ei brawd Syr WALTER DAUNTESEY , heb drwydded tua 1417 , ac a ddaeth yn ben y teulu yn Wilts , er iddo gadw rhyw gysylltiad ag esgobaeth Llandaf gan iddo gael trwydded i gadw allor symudol yno yn 1428 . Y mab hynaf oedd Syr EDWARD STRADLING a ddaeth yn amlwg yn hanner cyntaf y 15fed g. yn Ne Cymru ac yng ngorllewin Lloegr . Daliodd lawer o swyddi, e.e. siambrlen a rhysyfwr De Cymru , 1423 , siryf Gwlad yr Haf a Dorset , 1424 , ar gomisiwn ‘oyer et terminer’ yng Nghymru , 1424 , stiward Cantreselyf , Alexanderston , a Phencelli , 1424 , ar gomisiwn i holi i ddrwgweithredoedd un o ganoniaid Talyllychau , 1427 , ar gomisiwn ‘oyer et terminer’ yn sir Aberteifi , 1431 , gweithredu yn absenoldeb prif ustus De Cymru , 1431 , ar gomisiwn i ofalu am briordy Caerfyrddin , 1431 , siryf Caerfyrddin , 1438 , ustus heddwch yng Ngwlad yr Haf , 1423-51 . Ymddengys ei fod yn un o gyfeillion Humphrey dug Gloucester . Fel ei dad a'i daid enwir ef yn un o Farchogion y Bedd , ac yng Nghaersalem y bu farw. Ei wraig oedd Jane , ferch y cardinal Beaufort . Hwyrach fod JOHN STRADLYNGE , rhysyfwr Ogwr yn 1462 , yn fab iddo.

Mab hynaf Syr Edward Stradling oedd Syr HARRI STRADLYNG a gymerwyd yn garcharor gan Golyn Dolphyn , ac a orfodwyd i werthu rhannau o'i stadau ym Morgannwg , Mynwy , a Rhydychen , i dalu am ei ryddid. Aeth yntau i Gaersalem yn 1476-7 , a bu f. ar ynys Cyprus ar ei ffordd adref. Priodasai Elisabeth ferch Syr William ap Tomas , Rhaglan . Bu un o'u merched ( Jane ) yn briod â Miles ap Harri , ac ŵyres iddi ydoedd Blaens Parry [q.v.] . Bu f. yr etifedd THOMAS STRADLING yn 1480 , o dan 26 oed. Ei wraig ef oedd Sioned ferch Thomas Mathau , Radyr , a gwraig Syr Rhys ap Tomas [q.v.] wedi hynny. Yn y cyfnod hwn daw'r teulu'n amlycach yn y bywyd Cymreig , ac ennill ei le ymhlith noddwyr beirdd Morgannwg . Trwy briodas un o ferched y Stradling hwn â Syr Wiliam Gruffudd y Penrhyn yn Arfon cymerodd y teulu gam ychwanegol i ganol y bywyd Cymreig . Plentyn ieuanc oedd yr etifedd. Urddwyd ef yn farchog yn Tournay yn 1513 fel Syr EDWARD STRADLING . Adroddwyd yn 1488 fod Syr Rhys ap Tomas wedi derbyn proffid ei diroedd ers tair blynedd. Edrychai Lewis Morgannwg arno'i hun fel bardd teulu i'r Syr Edward hwn. Yn 1535 y bu f. gan adael plant o'i wraig briod, Elisabeth ferch Syr Thomas Arundel , ac o gariadwraig. Bu ei ail fab, John , yn rheithor Castell Nedd , 1551-69 . Syr THOMAS STRADLING oedd yr etifedd. Bu ef yn siryf Morgannwg , 1547-8 , aelod seneddol dros East Grinstead , 1553 , Arundel , 1554 , ar gomisiwn heddwch siroedd y gororau , 1554 , ar gomisiwn chwilio heresïau a llyfrau gwrthwynebol i'r awdurdodau , ac yn fwstr-feistr ym myddin y frenhines Mari , 1557 . Urddwyd yn farchog , 1549 . Yr oedd yn Babydd selog, ac ni newidiodd ei ddaliadau pan ddaeth Elisabeth i'r orsedd. Bwriwyd ef i Dŵr Llundain yn 1560 am wneuthur lluniau o arwydd y groes a ymddangosodd yng ngraen coeden a ddiwreiddiwyd yn Sain Dunwyd . Enwir ef gan Nicholas Sanders fel un a garcharwyd am wrando'r offeren, 1558-61 . Cafodd ei ryddid, ond bu raid iddo ymrwymo i ateb y llys pan elwid arno. Bu f. yn 1573 . Merch hynaf Syr Thomas Gamage , y Coety , oedd ei wraig.

Dilynwyd Syr Thomas Stradling gan ei fab hynaf Syr EDWARD STRADLING ( 1529 - 1609 ), yr ysgolhaig a pherchen llyfrgell enwog Sain Dunwyd . Yr oedd yn aelod seneddol dros Steyning yn 1554 , ac Arundel , 1557-8 , ac y mae ei enw ar rôl pardwn y frenhines Elisabeth , 1559 . Urddwyd yn farchog , 1573 , a bu'n siryf Morgannwg , 1573-4 , 1582-3 , 1595-6 . Bu'n gyfrifol am lawer o welliannau yn adeiladau a gerddi Sain Dunwyd ac ar ei stadau, ynghyd â môrgloddiau a phorthladd yn Aberddawan . Ef oedd noddwr y Dr. Siôn Dafydd Rhys [q.v.] , a thalodd gost argraffu 1,250 copi o'i ramadeg yn 1592 . Cyhoeddwyd detholiad o'r llythyrau a dderbyniodd, o gopi, yn y Stradling Correspondence , 1840 . Rhwng 1561 a 1571 ysgrifennodd draethawd ar oresgyn Morgannwg gan y Normaniaid a gynhwyswyd gan y Dr. David Powel [q.v.] yn yr Historie of Cambria , 1584 . Cydnebydd Lewys Dwnn ei ddyled iddo hefyd. Ei wraig oedd Agnes ( 1547 - 1624 ) ferch Syr Edward Gage . Ni bu iddynt blant ond mabwysiasant berthynas, a etifeddodd y stad ar farwolaeth Syr EDWARD yn 1609 , Syr JOHN STRADLING , mab Francis Stradling S. George , Bryste , fab Harri Stradling , ail fab Thomas Stradling (a fu f. 1480 ) a Sioned Mathau .

Addysgwyd y John Stradling hwn yn Rhydychen ( B.A. 1584 ) a theithiodd ar y Cyfandir . Bu'n siryf Morgannwg , 1607 , 1609 , 1620 , ac urddwyd ef yn farchog , 1608 , ac yn farwnig , 1611 . Bu'n aelod seneddol dros S.Germans (Cernyw) , 1623-4 , Old Sarum , 1625 , a sir Forgannwg , 1625-6 , ac yn gomisiynydd i gasglu benthygiadau i'r Goron yn y sir honno. Ef a sefydlodd yr ysgol ramadeg , yr arfaethasai Syr Edward Stradling ei gweld, yn y Bont-faen . Ef oedd awdur neu gyfieithydd A Direction for travailers taken out of Epistola de Peregrinatione Italica … for the behoofe of the Earl of Bedford , 1592 ; Two bookes of constancie … Englished by J.S. , 1595 ; De vita et morte contemnenda libri duo , 1597 ; J. Stradlingi epigrammatum libri quatuor , 1607 ; Beati Pacifici: a divine poem , 1623 ; a Divine Poems , gyda phenillion o gymeradwyaeth gan Theophilus Field [q.v.] , esgob Llandaf 1625 . Gadawodd mewn llawysgrif hanes ymgyfreithio am diroedd ym Morgannwg , a ysgrifennwyd ganddo rhwng 1598 a 1601 a'i gyflwyno i Syr Edward Stradling , ac a gyhoeddwyd fel The Storie of the Lower Borowes of Merthyrmawr yn 1932 . Erys gwaith arall mewn llawysgrif — ‘ A Politike Discourse between a knight of the Commons-howse of Parliament, and a gent: his friend beinge a moderate Roman Catholique, diuided into two parts, afore-noones and afternoones Discourse , 1625 ,’ nas argraffwyd hyd yn hyn ( N.L.W. MS. 5666 ). Bu ef f. 9 Medi 1637 a chladdwyd ef yn Sain Dunwyd . Ei wraig oedd Elisabeth ferch Edward Gage , nith i wraig ei ragflaenydd. Yr etifedd oedd Syr EDWARD STRADLING , marchog a barwnig (2) ; g. ef 1601 , a'i addysgu yn Rhydychen . Cymerodd ran flaenllaw mewn busnes megis ym monopôl sebon a chyflenwi Llundain â dŵr , 1631 . Yr oedd yn aelod seneddol dros Forgannwg , 1640 , yn gyrnol catrawd o wŷr traed yn Edgehill , 1642 , a'i frawd Thomas yn swyddog oddi tano. Cymerwyd ef yn garcharor, a bu f. yn Rhydychen a'i gladdu yng nghapel Coleg Iesu , 21 Mehefin 1644 . Priodasai Mari ferch Syr Thomas Mansel , Margam , a hi a roddodd nawdd i'r archesgob Ussher yn Sain Dunwyd yn 1645 . Brodyr iddo hefyd ydoedd y capten JOHN STRADLING a laddwyd yng ngwarchae Rhé ; Syr HARRI STRADLING , un o'r ddau swyddog morwrol y methodd y Senedd â'u troi; a GEORGE STRADLING ( 1621 - 1658 ), M.A. , D.D. , caplan i'r esgob Sheldon , canon yn S.Paul's ac yn Westminster , deon Chichester , 1672-88 , campwr ar y luwt , awdur A sermon preached before the King , 1675 , a Sermons and Discourses … with an account of the author (gol. J. Harrington ), 1692 , a gŵr a wrthododd gymryd ei ethol yn llywydd Coleg Iesu , Rhydychen , yn 1661 .

Mab yr ail farwnig oedd y 3ydd, Syr EDWARD STRADLING , a urddwyd yn farchog yn Rhydychen , 1643 . Fel ei dylwyth bu yng ngwasanaeth y brenin Siarl yn y Rhyfel Cartref . Rhyw 20 oed ydoedd pan yn ymladd ym mrwydr Newbury , 1644 . (Yr oedd ei frodyr John a Thomas yn flaenllaw yng ngwrthryfel Morgannwg , 1647-8 ; cymerwyd John yn garcharor ym mrwydr Sain Ffagan , a bu f. yng nghastell Windsor ; a chydnabu Thomas yn 1650 iddo ddwyn arfau yn erbyn y Senedd yn sir Benfro — urddwyd ef yn farchog gan Iago II ; a bu f. ym Merthyr Mawr ). Tua 1642 priododd Syr EDWARD Catrin ferch Syr Hugh Perry , siryf Llundain ( 1632-3 ), a bu f. cyn 1661 . Priododd ei weddw Bussy Mansel [q.v.] o Lansawyl ger Castell Nedd . Pan gymerodd Syr EDWARD STRADLING (4) ei radd M.A. yn Rhydychen , 12 Medi 1661 , yr oedd wedi etifeddu'r teitl ar ôl ei dad. Priododd ef Elisabeth ferch Anthony Hungerford , a bu f. 5 Medi 1685 . Ganwyd eu haer Syr EDWARD STRADLING (5) tua 1672 . Yr oedd yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Caerdydd 1698 1700-1 1710-22 ac yn uchelsiryf Morgannwg , 1709-10 . Priododd Elisabeth ferch Syr Edward Mansel , a bu f. 1735 . Ganwyd eu mab hynaf, EDWARD STRADLING , yn 1699 , a chanodd Hopcyn y Gweydd englynion ar yr achlysur. Etholwyd ef yn aelod seneddol dros Gaerdydd yn 1722 , ond bu f. 1726 , a chanwyd ei farwnad gan Llywelyn ab Ifan . Yr etifedd oedd ei frawd Syr THOMAS STRADLING (g. 1710 ), a laddwyd mewn ornest ym Montpelier , 27 Medi 1738 . Daeth y teitl i ben a rhannwyd y stadau yn dair adran ar ôl hir ymgyfreithio. Tua diwedd y 18fed g. gwerthwyd llyfrgell odidog Sain Dunwyd , ac y mae llawer o'i thrysorau ar goll.

Yn ei Limbus Patrum y mae gan G. T. Clark fanylion am nifer o ganghennau'r teulu a ymsefydlodd yn y Rhath , Llanilltyd Fawr , Gelligaer , Brofeisgin , Wiltshire , Merthyr Mawr , a Chynffig . Un o gangen y Merthyr Mawr oedd y WILLIAM STRADLING (mab William mab Syr William Stradling ac Isabel St. Barbe a ddaliai ganoniaeth yn Abergwili , 1486 , ac a fu'n ganghellor Tyddewi o 1509 i 1539 . Ef a adeiladodd dŷ'r canghellor yn Nhyddewi .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • G. E. Cokayne , Complete baronetage (1611-1800) , Exeter, 1900-09 ;
  • G. T. Clark , Limbus Patrum Morganiae et Glamorganiae , 1886 a Cartae et Alia Munimenta quae ad Dominium de Glamorgan pertinent . Ail arg., 1910 ;
  • Calendar of State Papers, Domestic Series , Record Publication , Calendar of Inquisitions post mortem . Record Publication, 1898 ff , Calendar of Close Rolls . Record Publication, 1892 ff , Calendar of Patent Rolls . Record Publication, 1891 ff , etc.;
  • G. J. Williams , Traddodiad Llenyddol Morgannwg , 1948 ;
  • L. D. Nicholl , The Normans in Glamorgan, Gower and Kidweli , Caerdydd, 1936 ;
  • Cardiff Records , 1898–1911 , 1898-1911 ;
  • J. S. Corbett , Glamorgan Papers and Notes on the Lordship and its members , 1925 , 1925 .

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

STRADLING (TEULU; Bywg. , 869-71) Yn yr ail golofn ar dud. 869, ychwaneger blwyddyn geni Syr Edward Stradling , sef 1389 , a dyddiad ei farw — 3 Mai 1453 . 31 Awst 1476 oedd dyddiad m. ei fab, Syr Harri Stradling . Ar 27 Ion. 1571 (nid ‘ 1573 ') y bu f. Syr Thomas Stradling . Ychwaneger bellach at y llyfr. erthygl fanwl Ralph Griffiths , ‘ The rise of the Stradling of St. Donats ', Morgannwg , VII, 15-47.