Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



STEPNEY , neu STEPNETH (TEULU), Prendergast , sir Benfro . Sefydlwyd y teulu gan ALBAN STEPNEY , Sais o sir Hertford a mab i Thomas Stepney o S. Albans o'i wraig Dorothy , merch John Winde o Romsey , Huntingdonshire . Addysgwyd ef yng Nghaergrawnt a Clement's Inn a dywedir iddo ddyfod i Gymru fel cyfreithiwr ifanc yng ngwasanaeth yr esgob Richard Davies yn ystod yr ymweliad esgobol yn 1559 . Ar 31 Rhagfyr 1561 fe'i penodwyd gan yr esgob yn dderbynnydd cyffredinol esgobaeth Ty Ddewi am ei oes. Bu hefyd yn gofrestrydd yr esgobaeth . Yn 1565 priododd ei wraig gyntaf, Margaret ( c. 1546 cyn 1573 ), merch a chydetifeddes Thomas Catharn o Brendergast a thrwyddi hi y daeth yn berchen ar faenor Prendergast . Cyn 1573 priododd ei ail wraig Mary , merch William Philipps o Bictwn . Bu'n flaenllaw yn y cylch gwleidyddol lleol a ffurfiwyd gan nifer o wyr bonheddig y sir dan arweiniad William Philipps , mewn gwrthwynebiad i Syr John Perrot a'i ganlynwyr. Bu'n ustus heddwch dros sir Benfro a Hwlffordd , yn ddirprwy-raglaw sir Benfro , yn siryf sir Benfro yn 1573 , 1590 , a 1605 , a siryf sir Gaerfyrddin yn 1597 , aelod seneddol dros Hwlffordd yn 1572 , 1584 , a 1586 , dros Aberteifi yn 1588 , a thros sir Benfro yn 1602 ; bu f. 19 Awst 1611 . Urddwyd ei etifedd, JOHN STEPNEY (g. 1581 ), yn farwnig yn 1621 . Addysgwyd ef yn Rhydychen a Lincoln's Inn . Cyn 1611 priododd Jane , merch Syr Francis Mansel o Fodlysgwm , sir Gaerfyrddin . Bu'n ustus heddwch , yn siryf sir Benfro yn 1614 , ac yn faer Hwlffordd yn 1620 ; bu f. 21 Gorffennaf 1626 . Canlynwyd ef gan ei fab Syr ALBAN STEPNEY ( c. 1607 - 1628 ). Brawd hwn, Syr JOHN STEPNEY (g. c. 1618 ), oedd y 3ydd barwnig . Yn ystod y Rhyfel Cartrefol bu'n gweithredu fel llywodraethwr tref Hwlffordd ac ef oedd un o'r ychydig o wyr bonheddig sir Benfro a lynodd yn deyrngar wrth y brenin . Carcharwyd ef gan y fyddin Seneddol ar ôl iddynt ei ddal yn Henffordd yn 1645 . Yn 1639 ef oedd siryf sir Benfro . Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdref Penfro yn 1640 a thros Hwlffordd yn 1640-3 . Ef oedd maer Hwlffordd yn 1662 a dirprwy-raglaw sir Benfro yn 1674 . Ei wraig oedd Magdalen , merch Syr Henry Jones o Abermarlais ; bu f. cyn 26 Medi 1676 . Ei nai, Syr JOHN BAPTIST STEPNEY (bu f. 1681 ), oedd y 4ydd farwnig ; priododd ef Justina Marianna , merch Syr Anthony Vandyke , yr arlunydd . Eu mab, Syr THOMAS STEPNEY , oedd y 5ed barwnig , a'i wraig ef oedd Margaret , chwaer a chyd-etifeddes Walter Vaughan o Lanelli . Priodwyd hwy tua 1691-3 . Bu'n siryf sir Benfro yn 1697 ac yn aelod seneddol dros sir Gaerfyrddin yn 1717 ; bu f. cyn 15 Chwefror 1745 . Ymddengys i'r Stepneys dorri eu cysylltiad â sir Benfro ac ymgartrefu yn sir Gaerfyrddin (lle y cynrychiolir hwy heddiw gan deulu Stepney-Gulston , Derwydd , a theulu Howard-Stepney , Cilymaenllwyd , ac yn 1772 gwerthwyd eu heiddo yn sir Benfro . Bu'r 8fed farwnig , Syr JOHN STEPNEY ( 1743 - 1811 ), yn aelod seneddol dros sir Fynwy , 1767-83 , ac yn weinidog dros y Llywodraeth yn Dresden , 1775-82 , a Berlin , 1782-3 . Darfu'r urdd farwnig pan fu farw ei frawd, Syr THOMAS STEPNEY ( 1760 - 1825 ), gwastrawd dug Caerefrog . Ei wraig oedd Lady Catherine Stepney (bu f. 1845 ), y nofelydd (gw. D.N.B. ).

Delia'r D.N.B. ag aelod arall o'r teulu hwn, sef GEORGE STEPNEY ( 1663 - 1707 ), llysgennad a bardd .

Llyfryddiaeth:

  • West Wales Historical Records , 1910–29 , vii, 109-42;
  • Burke's Landed Gentry s.n., Stepney — Gulston;
  • Heraldic Visitations of Wales and Part of the Marches , 1846 , i, 180;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1942 , 29; 1948 , 59;
  • English Historical Review , lxi. 18-27;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 36, 138, 155, 167;
  • Public Record Office, List of Sheriffs for England and Wales…to A.D. 1831 , 1898 (P.R.O.);;
  • Venn , Alumni Cantabrigienses ;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • A. L. Leach , History of the Civil War (1642-49) in Pembrokeshire and on its borders , Llundain, 1937 ;
  • Richard Fenton , A Historical Tour through Pembrokeshire , 223-4.

Awdur:

Dr Bertie George Charles, Ph.D., (1908-2000), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

STEPNEY , neu STEPNETH (TEULU), Prendergast ( Bywg. , 868) Yn 1637 (nid (‘ 1639 ') y bu Syr John Stepney (g. c. 1618 ), yn siryf sir Benfro . Yn 1782-4 y bu'r 8fed barwnig yn Berlin .