SPARK
,
THOMAS
(
1655
-
1692
),
clerigwr ac ysgolor clasurol
;
mab
Archibald
Spark
,
gweinidog
Llaneurgain
,
sir y Fflint
. Addysgwyd ef yn
Ysgol Westminster
, ac yn
1672
enillodd
ysgoloriaeth
i
Goleg Christ Church
,
Rhydychen
. Yno graddiodd yn
B.A.
1676
,
M.A.
1679
,
B.D.
1687/8
, a
D.D.
1691
. Yn
1682
dewiswyd ef i draddodi'r
ddarlith Bodley
gyntaf. Gwnaed ef yn
gaplan
i
Syr
George
(wedyn y
barwn
)
Jeffreys
[q.v.]
. Yn
1686
cafodd
brebend Offley
yn
eglwys gadeiriol Lichfield
. Gwnaed ef yn
rheithor
Ewhurst
,
Surrey
,
1687/8
, a
Hog's Norton
,
Leicestershire
. Yn
1688
cafodd
brebend
yn
eglwys gadeiriol Rochester
. Yn ychwanegol at y penillion
Lladin
a gyfrannodd i
Musae Anglicanae
ac i'r gyfrol o benillion er coffadwriaeth am
Siarl
II
, cyhoeddodd
Spark
argraffiadau o
Historia Nova
Zosimus
,
1679
, ac o weithiau
Lactantius
,
1684
. Bu f.
7 Medi 1692
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
, a'r awdurdodau a enwir yno.
Awdur:
John James Jones, M.A., (1892-1957), Aberystwyth