Yn 1868 cyhoeddodd The Four Ancient Books of Wales , sy'n cynnwys barddoniaeth Gymraeg a geir yn ‘ Llyfr Aneirin ,’ ‘ Llyfr Taliesin ,’ ‘ Llyfr Du Caerfyrddin ,’ a rhan o ‘ Lyfr Coch Hergest '; cyfieithwyd y farddoniaeth iddo gan D. Silvan Evans a Robert Williams [qq.v.] . Ymgais oedd y gwaith hwn i ddidoli'r elfen hanesyddol oddi wrth yr hyn oedd yn ddychmygol ac yn ffug yn yr hen farddoniaeth Gymraeg-Geltaidd.
Thomas Isfryn Jones, Aberystwyth