SION MOWDDWY (fl. c. 1575-1613), bardd

Enw: Sion Mowddwy
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Enid Pierce Roberts

Canai fawl i uchelwyr led-led Cymru, o Fostyn i Forgannwg. Arhosai'n hir ym Morgannwg weithiau. Bu ymryson rhyngddo a Meurug Dafydd o Lanisen ynglŷn â chlera yng Ngwent a'r cyffiniau, c. 1575-80, a bu ymryson rhyngddo hefyd a Llywelyn Siôn o Langewydd. Nid enwir mohono ymhlith beirdd eisteddfod Caerwys, 1567; efallai ei fod yn rhy ifanc. Nid oes dim sail i chwedl 'Iolo Morganwg' mai mab i'r Tincer Coch o Fawddwy ydoedd, iddo ddilyn yr un grefft ei hun, ac iddo briodi etifeddes ym Mawddwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.