Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SION LEIAF, ‘Syr (fl. c. 1480), bardd ac offeiriad mab i Ieuan ap Gruffudd Leiaf [q.v.] o sir Ddinbych, a disgynnydd o Owain Gwynedd (Pen. MS. 127 (20)). Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir dau gywydd crefyddol, sef cywydd cyffes, a chywydd y feronagl ('veronicle'), cywydd moliant i Risiart Cyffin, deon Bangor, cywydd serch, a chywydd i'r dylluan. (Priodolir y cywydd olaf mewn gwahanol lawysgrifau eraill i Dafydd ap Gwilym, a hefyd i Robert Leiaf, perthynas i Syr Siôn.)

Llyfryddiaeth:

  • Mostyn MS. 129 (220);
  • Gwysaney MS. 25 (196);
  • Llanst. MS. 125 (151);
  • Cardiff MS. 7(766) 47 (197);
  • Pen. MS. 76 (136).

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni