Yr oedd Siôn Cent y bardd yn canu rhwng 1400 a 1430, hyd y gellir barnu wrth y ffeithiau tra phrin y gellir eu crafu o'i gywyddau. Canodd gywydd mawl i Frycheiniog, a ddengys o leiaf ei fod yn bur gyfarwydd â'r wlad honno ac yn hoff ohoni. Ond cywyddau crefyddol yw'r gweddill o'r gwaith a briodolir iddo — lawer ohono'n sicr ar gam. Ansicrwydd bywyd a'i holl bethau, sicrwydd angau a'r farn olaf, yw cylch ei destunau. Bu Rhys Goch Eryri a Llywelyn ap y Moel yn ymryson â'i gilydd ac yn trafod tarddiad awen, gan gytuno mai o'r Ysbryd Glân y daeth. Torrodd Siôn Cent i mewn i'r ddadl gan daeru mai awen gelwyddog oedd awen beirdd Cymru. Yn anffodus ni chadwyd o'r ffrae hon ond un cywydd gan Siôn Cent ac un gan Rys Goch yn ateb iddo. Mae'n weddol sicr bod o leiaf un cywydd gan Siôn Cent ar goll. Canodd am y byd a bywyd fel y gwelai ef, a digalon oedd gan mwyaf, er ei fod ar dro'n ymloywi wrth sôn am y nef. Ceir yn ei gywyddau un nodwedd anghyffredin, sef torri cywydd yn adrannau, a rhoi'r un llinell fel byrdwn i gloi pob adran.
Athro-Emeritus Henry Lewis, D.Litt., (1899-1968), Abertawe