Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SION CAIN ( c. 1575 c. 1650 ), arwyddfardd . Mab Rhys Cain [q.v.] , a anwyd, y mae'n debyg, cyn i'r teulu ymsefydlu yng Nghroesoswallt tua 1578 . Dilynodd ei dad yn ei alwedigaeth, ac edrychid arno, yn ei ddydd, fel yr olaf o'r arwyddfeirdd . Gadawodd rai nodiadau sy'n awgrymu ei fod yn rhyw gymaint o amaethwr hefyd. Teithiodd yn helaeth yng Ngogledd Cymru yng nghwrs ei alwedigaeth. Dechreua cofnodion ei yrfa gyhoeddus gydag ymweled â Llywenni , gyda beirdd eraill, yng ngwyliau Nadolig, 1607 . Rhwng hynny a 1648 erys dros 300 o'i gywyddau achyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn ei law ei hun. Ni fedrir dyddio dim o'i waith ar ôl 1648 , a gellir casglu iddo farw tua'r adeg honno. Bu ei wraig f. 12 Hydref 1646 ( Pen. MS. 178 (79) ), ac mewn deiseb at y cyrnol Mytton , yn erbyn gosod milwyr i letya yn ei dŷ (yn 1644? ), cyfeiria at ei deulu hefyd. Daeth ei lawysgrifau i feddiant Robert Vaughan , Hengwrt , a ohebai'n weddol gyson ag ef. Erys tua 40 o lythyrau a ysgrifennwyd ato ar faterion achyddol ( Pen. MS. 327 ), casgliadau o'i farddoniaeth ( Pen. MS. 90, 116, 117 ), casgliad herodrol ( Pen. MS. 149 ), a chasgliad achau ( Pen. MS. 269 ). Di-awen iawn yw ei gywyddau achau ac ni fedrai amrywio llawer hyd yn oed ar ei linellau agoriadol. Nid oedd cystal crefftwr â'i dad. Y mae ei dariannau arfau yn llawer mwy aflêr, a'i law yn frasach nag eiddo'i dad.

Llyfryddiaeth:

  • Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , Reports on Manuscripts in the Welsh Language . Historical Manuscripts Commission, 1898–1910 ;
  • N.L.W., llawysgrifau Pen. fel uchod, a chartau achau yng nghasgliadau Peniarth, Coedllai, Plas Nantglyn, a Llanbedrog.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth