SION ap HYWEL ap LLYWELYN FYCHAN .
Ceir bardd o'r enw hwn yn gyfoeswr i Dudur Aled ac yn canu marwnad iddo c. 1526. Am weithiau a briodolir iddo gw. Lewis a Jones, Mynegai i Farddoniaeth, 330, a hefyd Bodewryd MS. 2; Cwrtmawr MS. 242; NLW MS. 552, 566, 832, 1024, 1246, 1553, 2288, 5273, 6209, 6495, 6499, 6681, 8330; a B.M. Add. MSS. 14966, 14969, 14976, 14978.
Awdur:
Griffith Milwyn Griffiths, M.A., Aberystwyth