SIMWNT FYCHAN (c. 1530 - 1606), bardd

Enw: Simwnt Fychan
Dyddiad geni: c. 1530
Dyddiad marw: 1606
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

a oedd yn byw yn y Tŷ Brith yn Llanfair Dyffryn Clwyd. Dywedir weithiau ei eni yn 1526. Ni ellir profi hynny, ond gan ei fod yn canu tua 1550, y mae'n eglur ei eni cyn 1530. Ei athro barddol ydoedd Gruffudd Hiraethog, ac fe'i hurddwyd yn bencerdd yn eisteddfod Caerwys yn 1568, ac y mae copi o'r drwydded a gafodd yn Y Greal, 1806. Ceir llawer iawn o'i gywyddau yn y llawysgrifau, cywyddau mawl a marwnadau gyda chywyddau serch, ac eraill yn trafod pynciau megis y llysoedd cyfraith. Er eu bod yn dangos y grefft gynnil a ddisgwylid gan un o ddisgyblion Gruffudd Hiraethog, ni pherthyn iddynt ryw lawer o arbenigrwydd. Y mae Simwnt yn bwysig fel gŵr hyddysg yn y traddodiadau barddol. Tua 1570 lluniodd gopi o ramadeg y beirdd wedi ei rannu'n bum llyfr, ac ynddo y cawn y gwaith hwnnw yn ei ffurf derfynol. Er hynny, rhaid pwysleisio mai copi ydyw. Yr unig adran sy'n newydd ydyw honno ar y gynghanedd, ac y mae'n bosibl mai ei athro, Gruffudd Hiraethog, a'i lluniodd. Ac fel ei athro, yr oedd yn achwr cyfarwydd ac yn gryn feistr ar herodraeth. Ceir llawysgrif fawr yn cynnwys ei waith achyddol yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, ac y mae llawer o lawysgrifau eraill o'i waith yn y gwahanol lyfrgelloedd. Cyhoeddwyd rhai o'i gywyddau, a chynhwyswyd ei awdl enghreifftiol i Birs Mostyn, awdl a ddangosodd yn eisteddfod Caerwys yn 1568, yng ngramadeg Siôn Dafydd Rhys, 1592. Ac yn 1571 cyhoeddwyd dalen yn cynnwys epigram y bardd Lladin, Martial, am 'ddedwyddyd bydol' gyda chyfieithiad Cymraeg ar fesur cywydd o waith Simwnt Fychan, cyfieithiad a luniodd ' wrth arch ac esponiat ' ei noddwr, Simon Thelwall o Blas-y-ward yn Rhuthyn. Claddwyd ef yn Llanfair Dyffryn Clwyd, 13 Ebrill 1606, a chanwyd marwnadau iddo gan Siôn Phylip, Edwart ap Raff, a Thomas Evans o Hendre Forfudd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.