SIMON
,
BEN
(
c.
1703
-
1793
),
Abergwili
,
sir Gaerfyrddin
. Cofnodir claddu ‘
Benjamin
Simon
, a Pauper,’ yn
Abergwili
,
1 Mawrth 1793
, ac y mae gan
‘
Iolo Morganwg
’
yn ei ‘
Agricultural Observations
,’
1795
(
N.L.W. MS. 13115
, sef
Llanover MS. C.28
), ddarlun cofiadwy o'r hen ŵr yn ei dlodi. Dywed
‘
Iolo
’
ei fod yn 90 oed pan fu farw, ac mai fel
rhwymwr llyfrau
yr enillai ei fywoliaeth. Y mae traddodiad arall mai
crydd
oedd. Dengys ei farwnad i
Griffith
Jones
,
Llanddowror
, fod dylanwad hwnnw a'i ysgolion yn fawr iawn arno, fel ar eraill o'i genhedlaeth, megis
‘
Ioan Siencyn
’
o
Aberteifi
.
Anghydffurfiwr
oedd
Simon
, fel eraill o
lenorion
a
hynafiaethwyr
y cyfnod, ac enwir ef yn aelod ym
Mhanteg
,
sir Gaerfyrddin
,
Mawrth 1743
(yn y llyfr eglwys,
N.L.W. MS. 12362
). Un oedd
Ben
Simon
o'r cylch
copïwyr
y dylanwadwyd arnynt yn fawr gan
‘
Iaco ab Dewi
’ [q.v.]
.
Rhwng 1747 a 1751
y copiodd ei lawysgrif enwocaf, ‘
Tlysau'r Beirdd
’ (
N.L.W. MS. 5474
), a'i gasgliad adnabyddus o weithiau
Dafydd ap Gwilym
(
N.L.W. MS. 5475
) yn
1754
. Y mae eraill o'i lawysgrifau yn
Llyfrgell Dinas Caerdydd
ac yn
Rhydychen
. Prynwyd ei lawysgrifau a'i lyfrau gan
Thomas
Evans
(‘
Tomos Glyn Cothi
') [q.v.]
yn
1790
, a defnyddiwyd rhai ohonynt, ar ôl hynny, gan
‘
Iolo Morganwg
.’
Yr oedd cysylltiad agos rhyngddo ef a
Siôn Rhydderch
hefyd [q.v.]
. Y fwyaf adnabyddus o'i faledi yw
Marwnad ar Farwolaeth … 17 o Ddynion yng Waith Glo'r Wern Fraith, ger-llaw Castell Nedd yn sir Forgannwg
,
1758
. Argraffwyd un arall o'i farwnadau fel atodiad i
Llawlyfr Ysgrythyrawl
,
1756
.
Llyfryddiaeth:
-
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
, v, 302;
-
Carmarthenshire Miscellany
, i,
1892, 100
;
-
y farwnad i Griffith Jones yng nghasgliad
Thomas Levi
,
Casgliad o hen farwnadau Cymreig, yn dal
cysylltiad a chyfundeb y Methodistiaid a wnaed ar gais y
Gymanfa Gyffredinol
, Wrecsam, 1873
,
1873
.
Awdur:
Garfield Hopkin Hughes, M.A., (1912-69), Aberystwyth