SIMMONS
, neu
SIMONS
,
JOSEPH
(
1694?
-
1774
),
gweinidog gyda'r Annibynwyr ac athro ysgol
;
g.
tua 1694
yn
Foxhole
,
Llansamlet
; bu yn
academi Caerfyrddin
dan
Perrott
. Yn
1724
urddwyd ef yn
weinidog cynorthwyol
dan
Roger
Howell
yng
Nghwmllynfell
a'r
Gellionnen
. Yr oedd yn
cadw ysgol
yng
Nghastell Nedd
yn
1730
, ysgol y bu
Lewis
Rees
[q.v.]
ynddi — bu
Howel
Harris
yn aros noson yn
Awst 1738
gyda ‘
Jos.
Symons
, near the
Abbey
at
Neath
.’ Dywedir iddo, pan fu farw
Rees
Price
yn
1739
, gymryd at ei academi yn
Nhynton
; ond erbyn
1741
sut bynnag
yr oedd ganddo ysgol
yn
Abertawe
.
Calfin
oedd
Simmons
; enwir ef gan
Edmund
Jones
yn
1741
(
Trevecka Letter 362
) fel un o'r
gweinidogion Ymneilltuol
a gefnogai'r
Diwygiad Methodistaidd
, a phwysodd
Edmund
Jones
ar
Thomas
Morgan
(‘o
Henllan
') [q.v.]
i fynd i'r ysgol at ‘
Mr.
Seimons
at
Swanzey
’ yn hytrach nag at
Samuel
Jones
,
Pen-twyn
, ansad ei
Galfiniaeth
. I
academi Galfinaidd y Fenni
yr anfonodd
Simmons
ei fab ef ei hunan, ac yr oedd
Edmund
Jones
yn bresennol yn urddiad hwnnw — ond digiodd yr
‘
Hen Broffwyd
’
(gw. ei ddyddlyfr,
1789
, yn
N.L.W.
) pan gymerth
Joseph
Simmons
ran yn urddiad yr
Armin
Edward
Evan
[q.v.]
yn
Aberdâr
. Yn
1750
symudodd
Simmons
ei drigfan o
Hendreforgan
i
Lansamlet
, i
fugeilio eglwys
Castell Nedd
, ar y pryd yng
nghapel Chwarelau-bach
; arolygai'r achos yn
Sgiwen
hefyd. Codwyd capel
Maes-yr-haf
yn
1772
, ac ar agoriad hwnnw urddwyd
Noah
Simmons
(a fu yn
academi'r Fenni
,
1768-72
) yn gynorthwywr i'w dad. Bu
Joseph
Simmons
farw'n ddisyfyd yn
Abertawe
,
12 Mai 1774
. Dilynwyd
ef gan ei fab
Noah
, a bu hwnnw ym
Maes-yr-haf
hyd
1794
, pan ymadawodd i
America
yn herwydd gwrthwynebiad rhai o'i bobl iddo; ni wyddys pa bryd y bu ef farw.
Llyfryddiaeth:
-
J. Dyfnallt Owen
yn
Hanes Eglwys Cwmllynfell
, , a
, 1935
, 14-6;
-
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru
, ii, 97-8, 104;
- a'r cyfeiriadau eraill a roddwyd uchod.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor