Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SILS ap SIÔN , bardd o Forgannwg a flodeuai tua diwedd yr 16eg g. A barnu wrth un cyfeiriad yn ei gywydd i ‘hwsmonaeth,’ gellir bwrw ei fod yn byw (fel y mynnai Iolo Morganwg') heb fod nepell o gyffiniau Radyr a Llandaf. Sonnir mewn un llyfr achau am ryw Sils ap Siôn a oedd yn byw yng nghwmwd Meisgyn, ac y mae'n bosibl mai'r bardd ydoedd. Ceir casgliad bychan o'i waith ef a rhai o'i gyfoeswyr (yn ei law ef ei hun, yn ôl pob tebyg) yn llsgr. Llanover B 6. Cywyddau a ganwyd i William Evans, trysorwr a changhellor Llandaf [q.v.], un o brif noddwyr y beirdd ym Morgannwg yn y dyddiau hynny, ydyw llawer ohonynt. Nid oes ryw lawer o gamp ar waith Sils ap Siôn. Cynhwysir un englyn ‘extempore’ a ganodd pan gyfarfu cwmpeini o brydyddion o flaen William Evans a Thomas Lewis o Landaf ‘i gany ar wawd am y vaistrolaeth.’ Dyma, yn ddiamau, y math o gyfarfod a alwyd yn ‘eisteddfod’ yn y 18fed g.

Llyfryddiaeth:

  • G. J. Williams, Tradd. Llen. Morgannwg, 1948, 87-92.

Awdur:

Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd