Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SIDNEY, Syr HENRY (1529-1586), Penshurst , Caint , llywydd Cymru (cyngor y goror) o 1559 hyd ei farw. Yr oedd yn nodedig yn herwydd hyd cyfnod ei weinyddiad ac am y cyfuniad o allu, cryfder, a chydymdeimlad a nodweddai'r gweinyddu hwnnw. Sefydlodd gysylltiadau cyfeillgar â theuluoedd bonheddig Cymru. Dangosir ei ddiddordeb yn niwylliant cenedl y Cymry a hynafiaethau'r wlad yn ei sêl yn peri cadw a dosbarthu'r cofysgrifau yn Llwydlo a ddefnyddiwyd gan David Powel [q.v.] (gyda phob cymhelliad a chymorth gan Sidney) i ychwanegu at gasgliadau Humphrey Llwyd [q.v.] fel sylfaen ei Historie of Cambria (1584); dangosir ei ofal dros fuddiannau materol y wlad yn ei arbrofion i ddatblygu diwydiant haearn de-ddwyrain Cymru gyda chymorth gweithwyr celfydd a ddygwyd o'r Almaen (c. 1560) ac i gael copr o Fynydd Parys, sir Fôn, trwy'r dull a elwir yn ‘precipitation.’ Ceisiodd setlo'r cweryl rhwng ei frawd-yng-nghyfraith, iarll Leicester, a Syr Richard Bulkeley [q.v.] ynglŷn â'r ‘Forest of Snowdon'; yn y cweryl hwnnw cynorthwyid Bulkeley gan amryw o sgwieriaid sir Gaernarfon a oedd yn tueddu at Babyddiaeth; y pryd hwn cafodd Sidney ei hunan ei ddwrdio am ei fod yn rhy glaear gyda'r gwaith o weithredu yn erbyn Pabyddion — dyna paham, efallai, y cofid gyda mesur o serch am gyfnod gweinyddiad Sidney hyd yn oed gan wrthwynebwyr crefyddol a gwleidyddol megis Hugh Owen, Plas Du [q.v.]. Yr oedd yn absennol yn y gwasanaeth diplomyddol yn 1562 ac yn Iwerddon am y rhan fwyaf o 1565-71 a 1575-8; eithr rhoddid gwybod iddo beth a oedd ar droed gan yr is-lywyddion a oedd yn ddirprwyon iddo, a gweithiai'r trefniant hwn yn esmwyth yng nghyfnod William Gerard (1562), ond nid mor esmwyth o dan yr esgob Whitgift — nid oes ddadl nad oedd effeithioldeb gweinyddiad Sidney yn dioddef gan y toriadau hyn a'r gwrthweithio a ddilynodd yn eu sgil. Pan oedd yn gwasnaethu yn rhinwedd ei swydd yr oedd yn byw gan mwyaf yng nghastell Llwydlo; gwnaeth lawer o welliannau yn y castell hwnnw (ac yng nghastell Trefaldwyn), ac yno y dug ei deulu i fyny. Teimlai ei fod yn cael mwy o fodlonrwydd yn ei waith yng Nghymru nag yn Iwerddon; profir hyn gan ei deyrnged — ‘A better country to govern Europe holdeth not,’ a chan ei ddeisyfiad symbolig am gael claddu ei gorff yn Penshurst eithr ei galon yn Llwydlo — yr hyn a wnaethpwyd.

Cadwyd y cysylltiad â Chymru ymlaen gan ei deulu. Pan nad oedd ond 12 oed cyflwynwyd ei aer, Syr Philip Sidney (1554-1586), i reithoraeth leyg Whitford (sir y Fflint), gwerth £60 y flwyddyn. Priododd ei ail fab (a'i aer fel y digwyddodd), ROBERT SIDNEY (1563-1626), iarll Leicester yn ddiweddarach, â Barbara Gamage, aeres stad y Coety, sir Forgannwg, 23 Medi 1584; daeth ef yn aelod seneddol (1585 a 1592) dros y sir honno ac yn ustus heddwch ynddi (1625). Etifeddwyd y stad gan ddisgynyddion Leicester; yn eu plith yr oedd ei ŵyr, ALGERNON SIDNEY (1622-1683), a etholwyd, 17 Gorffennaf 1646, i ddilyn yr aelod seneddol brenhinol dros Gaerdydd (a laddwyd ym mrwydr Edgehill), ac a fu yn y blynyddoedd dilynol yn aelod o amryw bwyllgorau sir ym Morgannwg. Priododd MARY SIDNEY (1561-1621), merch Syr Henry Sidney, â Henry Herbert, ail iarll Pembroke [q.v.].

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Collins, Sydney Letters, i, 1-5, 95-6, 213-4, 273-9;
  • J.M. Traherne, Stradling Correspondence, 11-22;
  • C. A. J. Skeel, The Council in the Marches, 85-113;
  • Strype, Whitgift, ii;
  • G. T. Clark, Limbus Patrum;
  • Bradney, Monmouthshire, iv, 80;
  • Cal. Wynn Papers, 471;
  • D. J. Davies, Econ. Hist. of S. Wales, 74-5;
  • W. R. Williams, Parl. Hist., 96, 106;
  • Cymm., xiii, 119-63;
  • Trans. Cymm., 1948, 10;
  • Firth a Rait, Acts and Ordinances.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor