SIDDONS, SARAH (1755-1831), actores;
g. 5 Gorffennaf 1755 yn nhafarn y ‘ Shoulder of Mutton’ (heddiw, ‘The Siddons'), Aberhonddu, i Roger Kemble a'i wraig Sarah Ward — bu ei rhieni'n actio yng nghwmni John Ward, yn Aberhonddu ac ar y goror. Ym mis Mai 1772 ymunodd actor o'r enw William Siddons (o Walsall) â'r cwmni, ac ar waethaf gwrthwynebiad ei rhieni — a'i droi yntau allan o'r cwmni am wneud apêl ar gân i'r gynulleidfa yn Aberhonddu — priodwyd hwy yn Coventry, 26 Tachwedd 1773. Y mae gyrfa fuddugoliaethus Mrs. Siddons yn hysbys ddigon, ac adroddir ei hanes yn y ffynonellau ar ddiwedd yr ysgrif hon; ond ar ôl blynyddoedd ei hieuenctid ni bu fawr a wnelai hi â Chymru, ar wahân i aros o bryd i bryd ym Mrynbela, Dyffryn Clwyd, gyda'i chyfeilles Mrs. Piozzi [q.v.]. Bu f. 8 Mehefin 1831. Chwaer iddi oedd Julia Anne Hatton [q.v.], a brawd iddi oedd Charles Kemble [q.v.].
Llyfryddiaeth:
- Cofrestr eglwys Fair, Aberhonddu;
- Adam's Weekly Courant, 19 Mai 1772;
- D.N.B.;
- T. Campbell, Life of Mrs. Siddons, 1839;
- Yvonne French, Mrs. Siddons, Tragic Actress, 1936;
- Cecil Price, The English Theatre in Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).
Awdur:
Cecil John Layton Price, Ph.D. (1915-91), Aberystwyth / Abertawe