SIANCYN FYNGLWYD (fl. c. 1470), bardd

Enw: Siancyn Fynglwyd
Plentyn: Dafydd ap Siancyn Fynglwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Brodor, y mae'n debyg, o Ddeheudir Cymru. Ni wyddys dim am ei fywyd, ond ceir ychydig o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir dau gywydd i Syr Rhys ap Tomas o Ddinefwr a gyfansoddwyd pan oedd hwnnw'n ŵr ifanc. (Peniarth MS 83 (70); Llanstephan MS 30 (435).) Yr oedd ei fab, Dafydd Fynglwyd, yn fardd hefyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.