SHORT, THOMAS VOWLER (1790-1872), esgob Llanelwy;
g. yn Dawlish, 16 Medi 1790, yn fab i'r archddiacon William Short. O ysgolion Exeter a Westminster, aeth i Goleg Eglwys Crist yn Rhydychen; graddiodd (â ‘double first') yn 1813; bu'n gymrawd o'i goleg ac yn ddarlithydd a swyddog yno hyd 1823. Bu wedyn â gofal rhes o blwyfi arno, hyd ei ethol yn esgob Ynys Manaw yn 1841. Symudwyd ef i esgobaeth Llanelwy yn 1846. Ymddeolodd, 8 Ionawr 1870, a bu f. yn ficerdy Gresford, 13 Ebrill 1872; claddwyd ef yn Llanelwy. Cyhoeddodd gryn nifer o lyfrau ar bynciau diwinyddol ac addysgol. Efallai'n wir mai addysg oedd ei brif ddiddordeb; cyfrannodd yn hael, allan o'i gyflog ac o'i incwm personol, at godi ysgolion yn ei esgobaeth — pan fu farw nid oedd blwyf yn yr holl esgobaeth heb ysgol. Ymddiddorai hefyd yn nulliau cyfrannu addysg; noder yn neilltuol iddo, serch mai Sais uniaith ydoedd, fynnu darparu gwerslyfrau ac ynddynt wersi Cymraeg a Saesneg wyneb yn wyneb â'i gilydd.
Llyfryddiaeth:
- D.N.B.;
- Thomas, S. Asaph;
- A. G. Edwards, Landmarks;
- llawysgrifau yn llyfrgell esgopty Llanelwy.
Awdur:
Yr Esgob William Thomas Havard, M.C., T.D., M.A., D.D., (1890-1956), Abergwili / Tyddewi