Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SHIPLEY, WILLIAM DAVIES (1745-1826), clerigwr; g. ym Midgeham, Berkshire, 5 Hydref 1745, mab Jonathan Shipley (isod) ac Anna Maria ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgolion Westminster a Winchester. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen, 21 Rhagfyr 1763 o Eglwys Crist, a graddio B.A. yn 1769 ac M.A. yn 1771. Urddwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Yonge o Norwich, 11 Mawrth 1770, ac yn offeiriad gan ei dad, 18 Mawrth. Drannoeth penodwyd ef yn ficer Ysgeifiog; 6 Chwefror 1771, yn ficer Wrecsam; 11 Ebrill 1772, yn rheithor (segur) Llangwm. Cymerodd yn gyfnewid am y rheithoraeth hon reithoraeth segur Corwen (8 Ionawr 1774) ac yna ficeriaeth Llanarmon-yn-Iâl (10 Ionawr 1782). Gwnaed ef hefyd yn ganghellor yr esgobaeth (19 Tachwedd 1773) ac yn ddeon (27 Mai 1774). Daliodd y swyddi hyn hyd ei farw ym Modryddan, Rhuddlan, sir y Fflint, 7 Mai 1826. Claddwyd ef yn Rhuddlan, ac y mae cofadail iddo yng nghabidyldy eglwys gadeiriol Llanelwy, ag arysgrif foliannus arni. Cyhoeddodd draethodyn o waith ei frawd-yng-nghyfraith, Syr William Jones [q.v.], ar egwyddorion llywodraeth, a bu raid iddo sefyll ei brawf am gyhoeddi athrod a allai arwain i derfysg; ond ar ôl i'r achos barhau am ddwy flynedd, rhyddhawyd ef.

Ganwyd ei dad,



JONATHAN SHIPLEY (1714-1788), mab Jonathan Shipley o Leeds a Martha ei wraig, yn Twyford; cafodd ei addysg yn Reading ac yng ngholegau S. Ioan ac Eglwys Crist yn Rhydychen. Graddiodd B.A. yn 1735 ac M.A. yn 1738; daliodd amryw swyddi eglwysig a dyrchafwyd ef yn esgob Llandaf yn 1769 a'i symud yr un flwyddyn i Lanelwy. Ymwelai yn achlysurol â'i esgobaeth.

Llyfryddiaeth:

  • D.N.B.;
  • Thomas, S. Asaph, i, 238, 255, 323; ii, 84, 149, 166, 213;
  • cofrestri esgobaeth Llanelwy, Ll.G.C.;
  • A. G. Edwards, Memories, 63-5.

Awdur:

Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth