SHEEN, THOMAS (1718-1790), cynghorwr Methodistaidd ac Antinomiad;
Bedyddiwyd ef yn eglwys Glasgwm, sir Faesyfed, 8 Tachwedd 1718, mab William a Margaret Sheen o'r plwyf. Ni wyddys pa bryd y dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid. Daeth o dan ddylanwad athrawiaeth gyfeiliornus James Beaumont [q.v.] yn 1748. Perthynai i blaid Howel Harris [q.v.] yn 1750, ond cefnodd yn fuan a ffurfio plaid o'i ganlynwyr yn ardaloedd Llanfair-ym-Muellt. Dywedir iddo ddylanwadu ar eraill, megis Moses Lewis [q.v.] a Thomas Meredith [q.v.]. Credir mai rhyw gymysgedd o gyfriniaeth a Monoffysiaeth (neu Apolinariaeth, efallai) oedd ei athrawiaeth ef a'i gymheiriaid. Canodd un o'i ddilynwyr, Walter Watkin o Aberhonddu, farwnad i'w goffadwriaeth. Bu f. 28 Chwefror 1790.
Llyfryddiaeth:
- W. Watkin, Marwnad Thomas Sheen, 1790;
- Hanes Meth. Cymru, iii, 316;
- Robert Jones (Rhoslan), Drych yr Amseroedd, 1820, 136;
- Tadau Meth., i, 226;
- J. Gwili Jenkins, Hanfod Duw a Pherson Crist, 140;
- W. Rowlands, Llyfr. y Cym., 652;
- Rads. Soc. Trans., xiv, 1944;
- Y Traethodydd, 1946, 97-102.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe