Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SHADRACH , AZARIAH ( 1774 - 1844 ), ysgolfeistr, gweinidog gyda'r Annibynwyr, awdur ; g. 24 Mehefin 1774 yn Garndeifo-fach , Llanfair Nant y Gof , sir Benfro , yn bumed mab i Henry ac Ann Shadrach . Ac yntau'n 7 mlwydd oed symudodd y teulu i Burton yn rhan Seisnig y sir. Rhyw dair blynedd y bu yno cyn dychwelyd at ei fodryb i Drewyddel . O dan ddylanwad y Parch. John Phillips , ymaelododd gyda'r Annibynwyr . Cafodd ychydig addysg gan John Young , clochydd Nanhyfer , ond ei hyfforddi ei hun a wnaeth yn bennaf. Ymrwymodd yn was fferm i'r Parch. John Richards , gweinidog Trefgarn , Rhodiad , a Rhosycaerau , ar yr amod y câi ddarllen llyfrau'r gweinidog yn ei oriau hamdden. Yn Rhosycaerau y dechreuodd bregethu . Aeth ar daith bregethu drwy siroedd y De yn 1797 , a thrwy'r Gogledd yn 1798 . Perswadiodd Dr. George Lewis [q.v.] , Llanuwchllyn , ef i ymsefydlu yn y Gogledd. Bu'n cadw ysgol yn Hirnant , Pennal , Derwen-las , a Threfriw , ac yn pregethu o le i le. Yn 1802 urddwyd ef yn weinidog yn Llanrwst . Symudodd yn 1806 i gymryd gofal eglwysi Talybont a Llanbadarn Fawr , sir Aberteifi . Yn 1816 dechreuodd bregethu cyson i'r Annibynwyr yn Aberystwyth , a chorfforodd eglwys yno, 30 Mai 1819 . Rhoes i fyny ofal ei eglwysi er mwyn gosod yr eglwys yn Aberystwyth ar ei thraed. Aeth yn gyfrifol am gasglu at godi capel Seion , Penmaesglas yn 1821 . Agorwyd y capel yn 1823 ac yno y bu'r eglwys yn cyfarfod hyd nes y symudodd i Baker Street yn 1878 . Teithiodd yn helaeth yng Nghymru a Lloegr i gasglu'r arian. Yn 1830 daeth ei fab, Eliacim , i'w gynorthwyo, ond yn 1834 symudodd i ofalu am eglwys yn Dursley . Ymddeolodd yntau yn 1835 , ond bu fyw hyd 18 Ionawr 1844 . Claddwyd ef ym mynwent S.Mihangel , Aberystwyth , ac ar ei feddfaen ceir pennill o farwnad gan fardd lleol a'i galwai'n Bunyan Cymru .

Cyhoeddodd Shadrach nifer o lyfrau poblogaidd o natur bregethyddol yn dwyn teitlau maith a hynod: (1) Allwedd Myfyrdod , 1801 ; (2) Breudduyd … un o drigolion Bethsemes , 1802/3? ; (3) Drws i'r Meddwl Segur , 1804 ; (4) A Looking-glass , 1807 ; (5) Perlau Calfaria , 1808 ; (6) Clorianau Aur , 1809 ; (7) Blodau Paradwys , 1810 ; (8) Trysorau'r Groes , 1811 ; (9) Goleuni Caersalem , 1812 ; (10) Rhosyn Saron , 1816 ; (11) Udgorn y Jubili , 1819 ; (12) Cerbyd Aur , 1820 ; (13) Tabernacl Newydd , 1821 ; (14) Myfyrdodau Ysbrydol , 1821 ; (15) Glyn Angeu , 1821? ; (16) Dyfroedd Siloam , 1827 ; (17) Gwallt Sampson , 1831 ; (18) Cangen o rawn camphir , 1833 ; (19) Myrr Dyferol , 1833 ; (20) Meditations on Jewels , 1833 ; (21) Tlysau Aur , 1837 ; (22) Blodau y Ffigysbren , 1837 ; (23) Cerbyd o Goed Libanus , 1840 . Cyfieithiwyd rhif 4 yn Saesneg gan Edward S. Byam a'i gyhoeddi fel The Backslider's Mirror ( London , 1845 ).

Llyfryddiaeth:

  • Hunangofiant yn Cerbyd o Goed Libanus, neu, Sylwadau a myfyrdodau ar lawer o adnodau ac ar amryw faterion pwysig cynnwysedig yn yr Ysgrythyrau Santaidd … yn nghyd ag hymnau yn canlyn yr holl fyfyrdodau; at yr hyn y chwanegwyd hanes byr o fywyd yr awdwr , Aberystwyth, 1840 , 1840 ;
  • Josiah Jones , Bywyd a gweithiau Azariah Shadrach , Machynlleth, 1863 , 1863 ;
  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Journal of the Welsh Bibliographical Society , Gorffennaf 1944 .

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth