Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SEISYLL BRYFFWRCH (fl. 1155-75), bardd. Y peth cyntaf a wyddom amdano yw iddo ymryson â Chynddelw am benceirddiaeth Madog ap Maredudd, tywysog Powys (bu f. 1160) [q.v.]. Ceir yr englynion ymryson yn llsgr. Hendregadredd 71b-72a, ac yn y Myv. Arch. 154a. Dywed Seisyll yn un o'r englynion hyn ei fod o linach ‘Culfardd, sef, y mae'n debyg ‘Culfardd hardd hen’ y sonia Iolo Goch amdano (I.G.E., xvii, 36). Canodd Seisyll awdl-farwnad i Owain Gwynedd [q.v.], ac un arall i Iorwerth Drwyndwn [q.v.] ei fab (sef tad Llywelyn Fawr). Yr ail farwnad hon yw un o ffynonellau pwysicaf ein gwybodaeth brin am Iorwerth (Lloyd, Hist. W., 549-50). Ceir canu hefyd i'r arglwydd Rhys gan y bardd hwn lle y mae'n cyfeirio at yr ymladd yn 1159 yn erbyn y pum iarll Normanaidd, ac at ddigwyddiadau eraill yng ngyrfa Rhys mor ddiweddar â'r ymladd yng Nghyfeiliog yn 1167 ac ym Mrycheiniog yn 1168.

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban