SEIRIOL (c.500-c. 550), abad cyntaf a sylfaenydd eglwys Penmon;
mab Owain Danwyn ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig, ac felly'n gyfyrder i'r brenin Maelgwn Gwynedd ac o gydoedran ag ef. Yn ôl traddodiadau Môn, yr oedd yn gyfaill agos i Gybi Sant. Seiriol ydoedd prif sant ardal Dindaethwy ym Môn, a hefyd Penmaenmawr yn Arfon; 1 Chwefror ydoedd ei ddydd gŵyl yn ôl y calendrau cynharaf.
Llyfryddiaeth:
- Baring-Gould a J. Fisher, Br. SS., iv, 177-80;
- H. H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia, 1-26, 160-3.
Awdur:
Y Canghellor John Williams James, D.D., Aber, Bangor