SEFNYN
,
bardd
yn canu ym
Môn
yn
ail hanner y 14eg g.
;
Canodd awdl foliant i
Dudur ap Goronwy
o
Drecastell
a
Phenmynydd
(bu f.
1367
), ac awdl farwnad i
Iorwerth Gyriawg
[q.v.]
,
bardd
o
Fôn
a flodeuai
o gwmpas 1360
. Canai hefyd foliant gwragedd, megis rhyw
Angharad
‘gymar
Dafydd
‘; yn gymysg annhrefnus y ceir ei waith yn y llawysgrifau. Y mae'n dra thebyg mai ef oedd tad y
bardd
Gwilym ap Sefnyn
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
Poetry in
R.B.H.‘Llyfr Coch Hergest’ (Jesus College MS. cxi).
Cyfeirir at dudalennau'r llawysgrif ei hun, yn hytrach na'r
argraffiadau ohoni. Gw.
;
-
The Myvyrian Archaiology of Wales
, , a
,
1801–7; arg. arall, 1870
;
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
4973;
-
Cywyddau Iolo Goch ac Eraill,
1350–1450
, 1925, 1937
(ail arg.), lxxxiii-lxxxiv;;
-
Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1300–1650
.
[1885.]
Awdur:
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban