Pan dorrodd rhyfel Glyndwr allan yr oedd Syr JOHN SCUDAMORE I , mab-yng-nghyfraith Owain , yng ngwasanaeth y brenin ; yn y flwyddyn 1403 ef, yn wir, oedd ceidwad castell Carreg Cennen ar ran y brenin ac am gyfnod gwrthsafodd ymosodiadau Owain . Pa beth bynnag oedd safbwynt Syr John yn ddiweddarach tuag at yr arweinydd Cymreig , rhoes un aelod o'i deulu, sef PHILIP SCUDAMORE , Troy , ei fywyd i lawr dros Owain . Y mae hefyd draddodiad cryf — y traddodiad mwyaf credadwy, efallai, o'r rheini sydd yn delio â blynyddoedd olaf Owain — i Owain dreulio ei ddyddiau olaf ar un o stadau Scudamore , sef Monnington Straddel yn y ‘ Golden Valley .'
Enillodd Syr JOHN SCUDAMORE II , mab ac aer Syr John Scudamore I , enwogrwydd ar ei gyfrifoldeb ei hun fel un o bleidwyr mwyaf cadarn a chyson achos y Lancastriaid yng Nghymru yn ystod Rhyfel y Rhosynnau . Yr oedd gyda Siaspar Tudur [q.v.] ym mrwydr Mortimer's Cross yn 1461 , ac er iddo lwyddo i ddianc a chynnal castell Penfro am gyfnod ar ran Siaspar , yr oedd nifer o'i berthnasau agos, a'i fab hynaf HENRY , yn eu plith, ymhlith y rhai y torrwyd eu pennau i ffwrdd ar ôl y frwydr. Yr oedd yr ail Syr John , fel Siaspar Tudur , ymhlith y rhai na chynigiwyd iddynt y pardwn cyffredinol gan Edward IV , ac er iddo gael addewid na chollai mo'i eiddo pan drosglwyddodd gastell Penfro , fe gymerwyd ei stadau oddi arno yn fforffed maes o law. Priododd â Mawd , merch pleidiwr blaenllaw arall i blaid Lancaster , sef Gruffydd ap Nicolas [q.v.] , Newton , Dynefwr , a thaid Syr Rhys ap Thomas . Dychwelwyd Kentchurch a thiroedd eraill i etifeddion y briodas hon yn ddiweddarach.
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth