SAUNDERS, WILLIAM (1806 - 1851), bardd a llenor

Enw: William Saunders
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1851
Rhiant: Evan Saunders
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a llenor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Roger Hughes

Ganwyd 17 Ionawr 1806 yn Gwarcwm, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, mab i Evan Saunders, amaethwr. Addysgwyd ef yn ysgol Castell Hywel ac ysgol ramadeg (Annibynnol) Caerfyrddin. Prentisiwyd ef yn argraffydd, a bu'n gweithio gyda Samuel Williams, Aberystwyth. Yn ystod y tymor hwnnw daeth i amlygrwydd fel bardd, ac enillodd wobrwyon yn eisteddfod Caerfyrddin ac eisteddfodau eraill ar destunau megis ' Y Gwanwyn,' ' Yr Haf,' ' Yr Hydref,' ' Y Gaeaf,' ' Y Daran,' ' Y Môr,' ac am gyfieithiadau mydryddol. O 1830 hyd ei farw bu'n gweithio yn swyddfa argraffu a chyhoeddi William Rees, Llanymddyfri; ceir llawer o'i waith prydyddol a llenyddol yng nghylchgronau'r cyfnod a gyhoeddid gan William Rees - Yr Efangylydd, Yr Haul, Y Cylchgrawn. Golygodd gyfran o argraffiad Rice Rees o Cannwyll y Cymry. Y mae cyfrol lawysgrif o'i waith yn Llyfrgell Dinas Caerdydd. Bu farw 30 Mehefin 1851.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.