SAUNDERS
,
ERASMUS
(
1670
-
1724
),
diwinydd
;
g. ym mhlwyf
Clydey
, yng
ngogledd sir Benfro
, mab
Tobias
Saunders
,
Cilrhedyn
,
sir Benfro
, a
Lettice
Phillips
,
Penboyr
,
sir Gaerfyrddin
. Ymaelododd yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
,
20 Mawrth 1690
(
B.A.
1693
,
M.A.
1696
,
B.D.
1705
,
D.D.
1712
). Pan oedd yn efrydydd bu'n helpu
Edward
Lhuyd
[q.v.]
gyda'r gwaith o
gasglu manylion hynafiaethol
ynglŷn â
sir Benfro
a
sir Gaerfyrddin
. (Llythyrau yn
Inventory
sir Benfro
, xxxvi a xxxvii, ac
Inventory
sir Gaerfyrddin
, 266.) Yr oedd yr
esgob
William
Lloyd
[q.v.]
, un o'r saith
esgob
, yn
noddwr
iddo. Symudwyd
Lloyd
i fod yn
esgob Caerwrangon
yn
1700
. O'r flwyddyn honno daliai ei fab (o'r un enw) fywoliaeth
Blockley
yn
esgobaeth Caerwrangon
, eithr rhoddodd hi i fyny yn
1705
a daeth
Saunders
, a fuasai'n
gurad
iddo er
1702
, yn
ficer
(
13 Awst
). Bum mis yn ddiweddarach (
18 Ionawr 1706
), sefydlwyd ef hefyd yn
rheithor (di-breswyl)
Helmdon
,
sir Northampton
(nid
gogledd Hampshire
fel y dywedir yn y
D.N.B.
) gan
esgob Peterborough
; daliodd y fywoliaeth hon
hyd 1721
; ond ni bu'n rheithor
Moreton-in-the-Marsh
, fel y dywed y
D.N.B.
Yn
1709
cafodd hefyd, gan yr
esgob
George
Bull
,
Tyddewi
,
gadair prebend
— y tro hwn yng
Ngholeg Crist
,
Aberhonddu
. Priododd
Saunders
yn
1714
, yn
Blockley
, â
Dorothy
, merch
Humphrey
Lloyd
,
Aberbechan
, gerllaw'r
Drenewydd
,
sir Drefaldwyn
; bu iddynt saith o blant. Bu f. ar
1 Mehefin 1724
, yn
Aberbechan
, o ergyd
parlys
, a chladdwyd ef yn
S. Mary
,
Amwythig
, ar y pumed dydd o'r mis hwnnw. Y mae ysgrif goffa faith ar ei feddrod yn yr eglwys honno; y mae hefyd yn eglwys
Blockley
dabled ar y mur yn dangos ei arfau ('
sable, a chevron ermine between three bulls’ heads, caboshed argent
'), a osodwyd gan ei fab hynaf,
Dr.
Erasmus
Saunders
(
canon
yn
Windsor
,
ficer
St. Martin-in-the-Fields
, a
chanon
yn
Rochester
, a fu f. yn
1775
). Er ei fod yn ‘
pluralist
’ yr oedd
Saunders
yn
offeiriad plwyf
gweithgar. Yn
1713
, gyda chymorth rhai o wŷr tiriog y gymdogaeth, llwyddodd i gael adeiladu ysgol yn
Blockley
; arni rhoes arysgrif yn
Gymraeg
— ‘
Aros a Llwydda
.’ Bu'n cynorthwyo gwaith y
S.P.C.K.
, a bu o gymorth ariannol i'r gymdeithas trwy dalu am hanner cant o gopïau o'i hargraffiad o'r
Beibl
Cymraeg
ac mewn ffyrdd eraill. Cyhoeddodd amryw bregethau; cyfieithwyd un o'r rhain, ar ‘
Household Government
,’ i
Gymraeg
gan
Samuel
Williams
, tad
Moses
Williams
[q.v.]
. Eithr ar gyfrif ei lyfr a elwir
A View of the State of Religion in the Diocese of S. Davids
(
London
,
1721
; adarg. gan
Wasg Prifysgol Cymru
,
1949
) y mae
Saunders
yn haeddu sylw yn bennaf. Yn y gwaith hwn deliodd mewn modd trwyadl â'r hyn a alwai ef yn ‘melancholy state’ yr esgobaeth; daliai ef mai'r achos pennaf o hyn oedd y ffaith bod cymaint o'r degymau yn llaw gwŷr lleyg.
Llyfryddiaeth:
-
A Chapter in English Church History;
S.P.C.K. Minutes and [Abstracts of] Correspondence,
1698–1704
, 1888
;
-
Foster
,
Alumni Oxonienses
;
-
Archaeologia Cambrensis
,
1873
, 384; 1879, 72-3;
-
West Wales Historical Records
,
1910–29
, ii, 161-88.
Awdur:
Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth