Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAUNDERS , DAVID , ‘ II ’ (‘ Dafydd Glan Teifi '; 1769 - 1840 ), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, a llenor ; g. Ionawr 1769 yn Undergrove , Llanbedr-pont-Steffan , mab hynaf Thomas ac Elinor Saunders , ac ŵyr i Evan Saunders [q.v.] a nai i David Saunders ‘ I (gw. dan Saunders , Evan ), ill dau yn bregethwyr yn Aberduar . Cafodd ei addysg mewn ysgolion lleol, gan gynnwys ysgol Dafydd Jones , Dolwlff , Llanwennog , a bedyddiwyd ef gan Timothy Thomas , Aberduar , Gorffennaf 1784 . Yr oedd yn aelod o deulu cefnog, ac enwir ef ymhlith bwrdeisiaid cyntaf Llanbedr-pont-steffan wedi'r siartr newydd yn 1814 . Dechreuodd bregethu yn Aberduar yn 1796 , ac ordeiniwyd ef yn gydweinidog yr eglwys, 22 Hydref 1800 . Symudodd i gapel Seion , Merthyr Tydfil , 13 Gorffennaf 1815 , ‘ heb ein cydsyniad fel eglwys ’ yn ôl llyfr Aberduar (adysgrif yn N.L.W. MS. 10785 ), gan gymaint ei barch, ac yno y bwriodd weddill ei oes hyd ei f., 4 Chwefror 1840 . Claddwyd ef yng nghapel Seion . Cafodd weinidogaeth arbennig o lewyrchus ym Merthyr Tydfil , a chofnodir iddo fedyddio 510 o aelodau newyddion yn y 21 mlynedd o 1816 i 1836 .

Priododd (1), 23 Mehefin 1815 , Margaret Jenkins , gwraig weddw o Ddolwlff , Llanwennog , a ganed eu hunig blentyn, Thomas , 19 Awst 1816 . Bu f. y fam Ebrill 1817 , a chollwyd y mab yn nociau Bryste , 12 Hydref 1837 , a chladdwyd Mary ei faban yntau yng nghapel Seion , 12 Medi 1837 , yn 10 mis oed; (2), 9 Mehefin 1829 , Catherine Joseph , gwraig weddw arall, o Ferthyr Tydfil (bu f. 1841? ). Y mae ei ewyllys (dyddiwyd 29 Mawrth 1838 ), profwyd 30 Mawrth 1840 ), yn sôn am dai o'i eiddo yn Merthyr Tydfil , ac yn cyfeirio at ei wraig Catherine , ei frawd John , ei fab Thomas (' who is missing and reputed to be dead '), ei chwiorydd Mary , Sarah , Elinor , Gwen , ei chwaer arall Martha (wedi marw) a'i phlant hithau Thomas Morgan a Mary Evans , a'i nith Elinor Lloyd .

Am ei lafur llenyddol y cofir ef yn bennaf. Yr oedd yn hyddysg yn y cynganeddion , fel y dengys ei ymarferiadau a'i nodiadau yn N.L.W. MS. 3260 , a chyhoeddwyd toreth o'i waith, caeth a rhydd, megis Ychydig o Bennillion Profiadol yn cynnwys Griddfaniad Hiraethlawn Dafydd Saunders , 1815 ; Dwy Awdl: y gyntaf ar Elusengarwch, … yr ail, ar Farwolaeth Syr Thomas Picton , 1820 ; Awdl ar Fordaith yr Apostol Paul … at yr hyn yr ychwanegwyd ychydig o hymnau newyddion , 1828 ; a marwnadau i Samuel Breeze , Castellnewydd Emlyn , 1812 ; Zecharias Thomas , Aberduar (ail arg.), 1816 ; a Joseph Harris (‘ Gomer ') , 1826 . Argraffodd Joseph Harris (‘ Gomer ') nifer o'i emynau yn Casgliad o Hymnau , 1821 , a chadwyd eraill o'i gynhyrchion mewn tri llyfr personol yn ei law ei hun ( NLW MS. 791, 7141-2 ). Cyhoeddodd hefyd amryw o weithiau diwinyddol, megis Sylwadau Difrifol , 1821 ; Sylwadau Pellach , 1822 ; a Rhifyn yr Ail. Sylwadau Difrifol , 1822 , ar y pwnc o fedydd babanod, yn ateb i Thomas Powel , Aberhonddu ; Ychydig o Nodiadau ar y Llyfryn a elwir Traethawd Byr, ac Undod a Phenaduriaeth yr un Duw y Tad, etc, gan R. Wright , 1816 ; a thri chyfieithiad o'r SaesnegTraethawd ar Deyrnas Crist (o waith Abraham Booth ), 1810 ; Traethawd ar Ddigofaint , (o waith John Fawcett ), 1826 ; a Golwg Gyffredinol ar Feddyliau a Phrawf … am Fedydd (o waith Thomas Westlake ), 1828 . Cadwyd nodiadau pregethau o'i eiddo yn N.L.W. MS. 4141-2 , llythyr, 1817 , o'i eiddo yn N.L.W. MS. 7165 , ac un arall, 1807 , o'r pwys mwyaf yn Cwrtmawr MS. 818 , yn adrodd hanes ei genhadaeth Fedyddiedig yn Deptford (arg. yn Spinther , iv, 403-4).

Llyfryddiaeth:

  • John Williams , Cofiant y diweddar Barchedig Dafydd Saunders … yn nghyd a'i farwnad , Aberystwyth, 1842 , 1842 ;
  • Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru , 1839 , 334, 584;
  • Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru , 1893–1907 , iv, 402-4;
  • Seren Gomer , 1840 , 95; 1829, 252;
  • Greal y Bedyddwyr , 1827–37 , 1830 , 39, 52, 66;
  • G. Eyre Evans , Lampeter , 1905 , 44, 117, 176, 183;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 791, 1907, 3260, 7141-2, 7165, 8705, 9273, 10785;
  • N.L.W. Llawysgrif Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 818;
  • Cardiff Free Libraries, Catalogue of Printed Literature in the Welsh Department , 1898 (copi personol J. H. Davies );
  • W. A. Griffiths , Hanes Emynwyr Cymru , Caernarfon, 1907 , 220-1;
  • Williams , Enwogion Ceredigion , 1869 , 221-2;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii, 539-41;
  • Eminent Welshmen , 1908 .

Awdur:

Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

SAUNDERS , DAVID ‘ II ' ( Bywg. , 849) Gwall argraff tua'r diwedd — N.L.W. MSS. 7141-2 yw'r nodiadau o'i bregethau.