SAMWELL (SAMWEL, SAMUEL), DAVID (1751 - 1798), meddyg yn y llynges, a bardd

Enw: David Samwell
Dyddiad geni: 1751
Dyddiad marw: 1798
Rhiant: William Samuel
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg yn y llynges, a bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Meddygaeth; Milwrol; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 15 Hydref 1751 (a'i fedyddio 2 Tachwedd 1751), mab William Samuel, ficer Nantglyn, sir Ddinbych - yr oedd felly'n ŵyr i Edward Samuel. Nid oes ar gael fanylion am ei flynyddoedd cynnar, eithr y mae'n amlwg oddi wrth ei waith a'i ddiddordebau iddo dderbyn addysg dda. Yn 1775 dangosodd, yn y Royal College of Surgeons, Llundain, ei fod yn gymwys i weithredu fel swyddog meddygol yn y llynges - fel '2nd Mate, 3rd Rate' i gychwyn. Y flwyddyn ddilynol hwyliodd gyda'r capten James Cook fel 'surgeon's first mate' ar y Resolution; y flwyddyn wedyn trosglwyddwyd ef i'w chymhares, y Discovery, i fod yn feddyg y llong honno. Pan laddwyd Cook (ym mis Chwefror 1779) mewn ysgarmes gyda rhai o'r brodorion yn ynys Hawaii, yr oedd Samwell yn llygad-dyst o'r weithred; ysgrifennodd yr hanes yn llawn a'i gyhoeddi yn 1786 ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr mewn cyfrol a deitlwyd A Narrative of the Death of Captain James Cook, gwaith sydd bellach yn brin ond yn parhau i gael ei gyfrif yn werthfawr gan gofianwyr Cook. Parhaodd i weithredu fel meddyg yn y llynges o 1780 hyd 1796, gan wasnaethu mewn tua saith o longau rhyfel. Yn niwedd ei oes bu'n feddyg yn gofalu am garcharorion rhyfel Prydeinig yn Versailles. Dychwelodd i Lundain o Baris ym mis Medi 1798, bu farw yn ei gartref yn Fetter Lane, Llundain, ar 23 Tachwedd y flwyddyn honno, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys S. Dunstan, Fleet Street.

Yr oedd i Samwell ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg - ac y mae cyfrol o waith y bardd Lladin Horas a ddug gydag ef ar ei fordaith gyda Cook wedi ei chadw (yn Ll.G.C.) - ac ym mudiadau diwylliannol Cymreig ei gyfnod. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth Gymraeg a Saesneg - e.e. 'Englyn' pan gyrhaeddodd y Resolution hyd at Benrhyn Gobaith Da, penillion ar ddydd gŵyl Dewi 1777 pan oedd ei long rywle rhwng New Zealand a Tahiti, etc. Ei ddarn barddonol mwyaf trawiadol, efallai, yw'r 'Padouca Hunt ,' cân ddychan yn cyfeirio at y dadlau brwd ymysg Cymry llengar Llundain ar y mater llosgawl hwnnw: a ddarganfuwyd America gan Gymro o'r enw Madog ymhell cyn i Columbus hwylio tuag yno, ac a oedd Madog yn gyndad llwyth o Indiaid Americanaidd a siaradai Gymraeg? Yr oedd hefyd ar delerau cyfeillgar â rhai o lenorion Seisnig ei gyfnod. Er mor ddiddorol ydyw ei ganeuon y mae'n bosibl i Samwell wneuthur mwy o les i'w wlad trwy helpu gyda'r gwaith o gasglu gwaith Dafydd ap Gwilym a Huw Morys ac fel aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion; yr oedd yn un o aelodau cynnar y gymdeithas honno (1774), daeth yn ysgrifennydd iddi yn 1788, ac yn llywydd yn 1797. Yr oedd iddo gyfran yn nhrefnu 'Gorsedd' Llundain a'r eisteddfodau yng Nghymru gan y Gwyneddigion. Bu'n noddwr arbennig i Thomas Edwards ('Twm o'r Nant'); yr oedd ganddo gymaint o feddwl o'r bardd hwnnw nes bod ei addoliad ohono yn profi na allai fod yn ddi-duedd wrth geisio barnu rhwng gwaith 'Twm' a gwaith beirdd eraill. Serch hynny i gyd, gellid barnu oddi wrth ei ddarlun (a atgynhyrchir yn yr erthygl gyntaf a enwir isod) ei fod yn ŵr o natur garedig a rhadlon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.