Ysgrifennodd Edward Samuel rai carolau a cherddi; gw. esiamplau yn ( a ) Blodeugerdd , 1759 ; ( b ) Llu o Ganiadau, neu Gasgliad o Garolau a Cherddi … o Gasgliad W. Jones, Bettws Gwerfil Goch ( Croesoswallt , 1798 ); ( c ) Eos Ceiriog , 1823 ; a ( ch ) B.M. Add. MS. 14961 . Cyhoeddwyd pregethau o'i waith, 1731 a 1766 ; eithr ei waith gwreiddiol pwysicaf, efallai, oedd Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr ( Mwythig , Thomas Jones , 1704 , ac arg. eraill). Cyhoeddwyd hefyd y cyfieithiadau a ganlyn o'i waith — ( a ) Gwirionedd y Grefydd Gristionogol ( Llundain , 1716 , ac arg. eraill; y gwreiddiol gan Hugo Grotius ); ( b ) Holl Dyledsuydd Dyn ( Amwythig , 1718 ); ( c ) Prif Ddledswyddau Christion, sef Angenrhaid a Mawrlles Gweddi Gyffredin a Mynych Gymmuno ( Mwythig , John Rhydderch , 1722/3 ; arg. 1793 yng Nghaer — o'r gwreiddiol gan William Beveridge , esgob Llanelwy , y rhan gyntaf wedi ei gyflwyno i'r barnwr Robert Price , Giler , sir Ddinbych , a'r ail ran i Watkin Williams Wynne [ sic ], Wynstay [ sic ]; a ( ch ) Athrawiaeth yr Eglwys ( Caerlleon , Roger Adams , 1731 ) — trosiad o ddau waith, y naill gan Peter Nourse a'r llall gan William Wake , archesgob Caergaint . Ceir ffacsimile o lythyr a ysgrifennodd, 1 Mawrth 1703/4 , at Edward Lhuyd yn R. Ellis , Facsimiles of Letters of Oxford Welshmen .
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth