Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAMUEL , DAVID (‘ Dewi o Geredigion '; 1856 - 1921 ), ysgolfeistr a llenor . g. 1 Mawrth 1856 yn Aberystwyth , yn fab i Edward Samuel . Addysgwyd ef yn ysgol yr Eglwys , Aberystwyth , ysgol ramadeg Aberystwyth ( Edward Jones ), Ysgol Llanymddyfri , Coleg Prifysgol Cymru , Aberystwyth , a Choleg Clare , Caergrawnt , lle'r aeth gydag ysgoloriaeth mewn mathemateg ym mis Hydref 1875 . Enillodd amryw wobrwyon a graddio, ym mis Ionawr 1879 , yn 20fed ‘wrangler’ mewn mathemateg. Aeth yn athro i ysgol ramadeg Appleby , Westmorland , ac wedyn i ysgol ramadeg Ashburn , Derbyshire . Ym mis Ionawr 1887 agorod ysgol ramadeg breifat yn Aberystwyth , lle y bu'n addysgu am naw mlynedd a hanner, nes ei apwyntio ( 1896 ) yn brifathro i'r ysgol sir newydd ( Ardwyn ) yn Aberystwyth . Dan ddylanwad Silvan Evans [q.v.] fe ddechreuodd ymddiddori'n fawr yn iaith a llenyddiaeth Cymru , ac fe ysgrifennodd lu o erthyglau i newyddiaduron a chyfnodolion , yn arbennig Cymru (O.M.E.) a'r Geninen (am restr gw. N.L.W. MS. 2809 ). Yr oedd ganddo ddiddordeb mewn diwinyddiaeth hefyd. Bu'n beirniadu droeon yn yr eisteddfod genedlaethol ac yn arholwr i Orsedd y Beirdd . Fe olygodd gasgliad o faledi Cymraeg , Cerddi Cymru , gyda rhagymadrodd ar ganwyr baledi ac ysgrifenwyr baledi. Bu f. 26 Mai 1921 .

Llyfryddiaeth:

  • The Cambrian News , 27 Mai 1921 ;
  • The Welsh Gazette , 2 Mehefin 1921 ;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2809-46.

Awdur:

Athro-Emeritus Syr Thomas Herbert Parry-Williams, D.Litt., (1887-1975), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

SAMUEL , DAVID ( Bywg. , 847) Darllener Ashbourn (nid ‘Ashburn').