Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAMUEL , CHRISTMAS ( 1674 - 1764 ), gweinidog Annibynnol . g. ym mhlwyf Llanegwad , sir Gaerfyrddin , 1674 . Hanoedd o deulu cefnog ei amgylchiadau. Daeth i'r eiddo a bu fyw ar ei dir ei hun ar hyd ei oes. Tybir iddo fod yn ysgol William Evans [q.v.] ym Mhencader neu Gaerfyrddin . Derbyniwyd ef yn aelod ym Mhanteg ac yno y dechreuodd bregethu . Yr oedd yn 14 oed pan fu farw Stephen Hughes [q.v.] a'r cof amdano'n fflam fyw yn yr eglwys. Pan ymddeolodd Thomas Bowen o'r weinidogaeth ym Mhanteg yn 1707 , cydnabuwyd Christmas Samuel yn weinidog (heb urddau) ar yr achos. Bu llwyddiant mawr ar ei waith. Yn ei adroddiad o'i ymweliad â Llanegwad yn 1710 , galwodd yr archddiacon Tenison ar y plwyfolion i ymwregysu i atal cynnydd yr achos llewyrchus ym Mhanteg . Ar 23 Medi 1711 , derbyniodd Christmas Samuel alwad oddi wrth aelodau o bum plwyf i fod yn weinidog Panteg . Urddwyd ef yr un dyddiad, yr urddiad mwyaf annibynnol- Annibynnol y clybuwyd amdano. Aeth o nerth i nerth yn ei lafur a'i ddylanwad ac adeiladu eglwys gref yn y traddodiad Annibynnol . Ei gyd-lafurwr am dymor hir oedd Milbourne Bloom [q.v.] . Rhoes ei nawdd dros amryw o achosion bychain. Yr oedd yn gefn i bob mudiad dyrchafol a llesol mewn cymdeithas ac eglwys; pleidiai'n selog ysgolion Griffith Jones , ac yr oedd yn un o noddwyr pennaf y dadeni llenyddol rhwng Tywi a Theifi ddiwedd yr 17eg g. a hanner cyntaf y 18fed. Cysylltir ei enw ag argraffwaith Isaac Carter [q.v.] yn Nhrefhedyn . Bu ganddo law arbennig mewn cyhoeddi llyfrau , megis Gemau Doethineb , 1714 ; Llythyr at y Cyfryw o'r Byd , 1716 ; Catecism o'r Scrythur , 1719 ; Llun Agrippa , 1723 ; Golwg ar y Testament Newydd , 1729 ; Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod Gwreiddiol , 1730 ; ac eraill. Bu f. 18 Mehefin 1764 , yn 90 oed. Bu'n ddall yn ei bum mlynedd olaf.

Llyfryddiaeth:

  • Y Dysgedydd , Rhagfyr 1935 , Ionawr, Chwefror, a Mawrth 1936;
  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 457-8;
  • hen lyfr eglwys Panteg yn Ll.G.C.

Awdur:

Y Parch. John Dyfnallt Owen, M.A., (1873-1956), Aberystwyth