Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SAMSON ( c. 485 c. 565 ), abad ac esgob yn yr Eglwys Geltaidd . mab Amwn (o Ddyfed ) ac Anna (o Went ). Addysgwyd ef gan Illtud yn Llan Illtud ( Dyfed ) o 490 . Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad gan Ddyfrig ar gais Illtud . Mudodd i fynachlog Pŷr ( Dyfed eto) a dilynodd Bŷr fel abad wedi ei farw. Ymwelodd ag Iwerddon (ceir eglwysi yn dwyn ei enw yn Ballygriffin , gerllaw Dulyn , ac yn Ballysamson , swydd Wexford ). Dychwelodd i Ddyfed fel meudwy i ogof gerllaw Stackpole Elidyr . Cysegrwyd ef yn esgob gan Ddyfrig ac eraill ar Ddydd Gŵyl Cadair Pedr , 521, sef 22 Chwefror . Mordwyodd i Gernyw ( Padstow , Southill , a Fowey ), lle y bu byw am rai blynyddoedd, a threiglodd ei ddylanwad hyd ynysoedd Scilly . Oddi yno aeth i wlad Llydaw , i ymsefydlu yn Dol lle treuliodd weddill ei oes; bu hyn cyn 547 , pryd y darfu i Deilo ymweled â Samson yma pan yn ffoi rhag y Fad Felen . Prif orchwyl Samson yn Llydaw ydoedd cael rhyddhau Iudual , tywysog ieuanc gogledd Llydaw , o'i gaeth-gadwraeth ym Mharis gan Childebert , y brenin Ffrancaidd , ar gais y rhaglaw dichellgar Chonomor . Wedi gorchfygu a lladd Chonomor , ymwelodd Samson unwaith eto â Pharis , i senedd esgobol y Ffranciaid , yn 556 , pryd yr arwyddodd benderfyniadau'r senedd fel ‘ Samson peccator episcopus .’ Bu f. 28 Gorffennaf 565 .

Llyfryddiaeth:

  • Baring-Gould a J. Fisher , The Lives of the British Saints , iv, 130-70;
  • T. Taylor , The Life of St. Samson of Dol , Llundain, 1925 (S.P.C.K.);
  • Hugh Williams , Christianity in Early Britain , Rhydychen, 1912 , a'i arg. o Gildae De excidio Britanniae fragmenta, Liber de paenitentia, accedit et Lorica Gildae / Gildas The ruin of Britain, fragments from lost letters, The penitential, together with the Lorica of Gildas ;
  • T. Taylor , The Celtic Christianity of Cornwall divers sketches and studies , Llundain, 1916 .

Awdur:

Y Canghellor John Williams James, D.D., Aber, Bangor