SALUSBURY
,
Syr
THOMAS
(
1612
-
1643
),
bardd ac uchelwr
.
g.
6 Mawrth 1612
, mab hynaf
Syr
Henry
Salusbury
,
Llewenni
,
y barwnig 1af
[q.v.]
, a
Hester
, merch
Syr
Thomas
Myddelton
. Ymaelododd yng
Ngholeg Iesu
,
Rhydychen
, ond ni chymerodd radd. Aeth i'r
Inner Temple
i astudio'r gyfraith,
Tachwedd 1631
, ond pan bu farw'i dad,
2 Awst 1632
, dychwelodd i
Lewenni
i
ofalu am y stad
.
Etholwyd ef yn
fwrdais
o dref
Dinbych
,
10 Medi 1632
, ac yn
henadur
,
1634-8
a
1639
, a bu'n
aelod seneddol
tros ei sir o
1640
hyd ei farw. Ymladdodd yn y
Rhyfel Cartref
fel un o
bleidwyr selog y brenin
; credir iddo fod yn bresennol ym
mrwydr Edgehill
,
23 Hydref 1642
, ac ychydig ddyddiau wedi hynny derbyniodd y radd o
D.C.L.
yn
Rhydychen
. Bu f. ym mis
Gorffennaf 1643
. Cyfeirir ato gan
Anthony
Wood
fel ‘
a most noted
poet
of his time
,’ ond yr unig waith a erys ar glawr yw
The History of Joseph, a poem
(
Llundain
,
1636
).
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
, a'r awdurdodau a enwir yno;
-
J. E. Griffith
,
Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire
Families
, 1914
, 222;
-
Pollard
a
Redgrave
,
A short-title catalogue of books printed in
England, Scotland, & Ireland and of English books
printed abroad, 1475-1640
, Llundain, 1926
, 500;
-
Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
1551, 5390.
Awdur:
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor