Cywiriadau

SALUSBURY, SALISBURY, SALESBURY (TEULU), Llewenni a Bachygraig

Erys cryn ansicrwydd ynghylch tarddiad y Salbriaid, ond tybir eu bod wedi ymsefydlu'n gynnar yn Nyffryn Clwyd, o bosibl cyn canol y 13eg ganrif, er y dylid nodi nad enwir yr un o'r teulu ymhlith y rhai a dderbyniodd diroedd a breiniau eraill yn Ninbych dan siartr Henry de Lacy (cyn 1290). Cyfeirir at Syr John Salusbury, a fu farw yn 1289, fel sefydlydd priordy'r Brodyr Gwyn yn Ninbych.

Yn nhreigl amser datblygodd y Salbriaid yn Gymry trwyadl, a chyn canol y 16eg ganrif daethai llwyddiant i ran pob un o bum mab THOMAS SALUSBURY, a laddwyd ym mrwydr Barnet (1470) a'r cyntaf o'r teulu i gael ei ddisgrifio fel o Lewenni. Dyrchafwyd FFOWC SALUSBURY, yr ail fab, yn ddeon Llanelwy cyn 1505 a daliodd y swydd hyd ei farwolaeth yn 1543; yr oedd tri arall, drachefn, yn berchenogion eu stadau eu hunain - Henry Salusbury yn Llanrhaeadr, Robert Salusbury ym Mhlasisa, Llanrwst, a John Salusbury ym Machymbyd. Y mab hynaf a'r aer ydoedd THOMAS SALUSBURY (bu farw 1505), a ymladdodd ym mrwydr Blackheath (1497) ac a wobrwywyd gan Harri VII ag urdd marchog. Dilynwyd ef gan ei fab Syr ROGER SALUSBURY (bu farw 1550), a chan ei fab yntau, JOHN SALUSBURY (bu farw 1578), a urddwyd yn 'Knight of the Carpet' gan Edward VI ar achlysur ei goroni, 20 Chwefror 1547. Priododd 'Syr John y Bodiau,' fel y'i gelwid weithiau oherwydd ei allu corfforol, Jane, merch David Myddelton, Caer, o linach Gwaenynog; bu'n siryf sir Ddinbych, 1541, 1542, a 1575; cwnstabl castell Dinbych, 1530; siambrlen Gwynedd, ac yn aelod seneddol dros ei sir, 1542-4, 1547-52, 1553, 1554, a 1554-5. Yn ystod yr helynt rhwng iarll Leicester ac ysweiniaid Gogledd Cymru gofalodd gadw ar yr ochr iawn i'r iarll. Bu farw ei fab hynaf a'r aer, JOHN SALUSBURY yr ieuengaf, 12 mlynedd o'i flaen, yn 1566. Ef ydoedd gŵr cyntaf Catrin, merch Tudur ap Robert o Ferain, yr enwog Catrin o Ferain; bu'n aelod seneddol tros sir Ddinbych, 1545-7, a thros Dinbych, 1554. Gadawodd John ddau fab, THOMAS SALUSBURY, yr hynaf, a ddienyddiwyd yn 1586, a JOHN SALUSBURY (1567 - 1612), a etifeddodd y stad ar ei ôl. Ymaelododd John yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 24 Tachwedd 1581, pan yn 14 oed, ac ym mis Rhagfyr 1586 priododd Ursula Stanley, merch anghyfreithlon Henry Stanley, iarll Derby. Ceir ei hanes yn ymladd 'duel' â'i gâr, y capten Owen Salusbury, Holt, yng Nghaer, Mawrth 1593, ac wedi clwyfo Owen yn dianc rhag y gyfraith. Ni wyddys i sicrwydd beth oedd wrth wraidd yr helynt hwn, er, wrth gyfeirio ato mewn cywydd a wnaeth ar yr achlysur, y gofidia Siôn Tudur am yr ymraniadau teuluol rhwng Salbriaid Llewenni a Rug (Llanstephan MS 124 (628)). Ymhen dwy flynedd wedi hynny, 19 Mawrth 1594/5, aeth John i astudio'r gyfraith i'r Middle Temple, ac am y 10 mlynedd nesaf treuliodd lawn cymaint o'i amser yn Llundain ag yn ei sir ei hun. Gwasnaethai'r frenhines fel 'squire of the body,' swydd y penodwyd ef iddi yn 1595. Blwyddyn fawr yn ei hanes oedd y flwyddyn 1601; ym mis Mehefin urddwyd ef yn farchog gan Elisabeth ei hun, ac ar 16 Rhagfyr etholwyd ef yn aelod seneddol tros sir Ddinbych - hynny wedi brwydr ffyrnig yn erbyn ei elynion yn y sir - Syr Richard Trevor, Trefalun, Syr John Lloyd, Llanrhaeadr, a'r capten John Salusbury, Rug. Cyfrifai Syr John ei hun yn dipyn o fardd, a chyfansoddodd, yn null ei oes ac yn Saesneg, amryw o ganeuon serch a sonedau nad ydynt o fawr werth fel llenyddiaeth, ond serch hynny yn taflu goleuni ychwanegol ar beth o ganu Shakespeare a'r beirdd cyfoes eraill (gweler Carleton Brown, Poems by Sir John Salusbury and Robert Chester). Nid ymddengys iddo byth ddychwelyd i Lundain wedi marw Elisabeth, a chymylwyd ei flynyddoedd olaf gan fynych ymdrechion ei elynion i'w ddifrïo yng ngolwg y brenin newydd a'i lys. Bu farw 24 Gorffennaf 1612 gan adael stad Llewenni i'w fab HENRY SALUSBURY (1589 - 1632), a aeth fel ei dad yn fyfyriwr i'r Middle Temple, 27 Tachwedd 1607, ac a urddwyd yn farwnig, 10 Tachwedd 1619. Dilynwyd Henry ar ei farw, 2 Awst 1632, gan ei fab Syr THOMAS SALUSBURY (1612 - 1643), y bardd a'r ail farwnig, ac yntau, yn 1643, gan ei fab THOMAS SALUSBURY (1634 - 57/8), a fu farw'n ddibriod 23 Mawrth 1657/8. Etifeddwyd y stad gan ei frawd, JOHN SALUSBURY (bu farw 1684), y 4ydd barwnig a'r olaf, a fu'n aelod seneddol tros Ddinbych, 1661-81. Ar ei farw ef yn ddiblant, 23 Mai 1684, daeth y stad i feddiant ei chwaer, Hester (bu farw 1710), a briododd Syr Robert Cotton o Combermere (gweler yr ysgrif ar Stapleton Cotton). Ei ŵyr ef, Syr Robert Salusbury Cotton (1695 - 1748), mab Syr Thomas Cotton (bu farw 1715), a werthodd Lewenni i Thomas Fitzmaurice tua 1780. Priododd trydedd merch Syr Thomas Cotton, Hester Maria, â John Salusbury, Bachygraig (1710 - 1762), llywodraethwr Nova Scotia a disgynnydd o Roger Salusbury, un o feibion Syr John Salusbury ('Syr John y Bodiau'), a briododd Ann, merch ac aeres Syr Richard Clough, Bachygraig. Merch i Hester Maria a John Salusbury oedd yr enwog Hester Lynch Piozzi (1740 - 1821).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

SALUSBURY, SALISBURY, SALESBURY (TEULU), Lleweni a Bachygraig

Y mae cryn ansicrwydd ynghylch tarddiad y Salbriaid. Gellir anwybyddu'r chwedl mai disgynyddion oeddynt o ddugiaid Bavaria yn yr 11eg ganrif ac mai o Salzburg y deilliodd yr enw Salusbury. Llai dychmygol, eithr yr un mor ddamcaniaethol, yw'r ymgais i olrhain yr enw i Salesbury yn sir Lancaster. Erys peth tystiolaeth, tenau ddigon, mae'n wir, ond nid hawdd ei ddymchwel, mai o sir Henffordd y tarddodd y teulu. Cyn 1334 yr oeddynt wedi ymsefydlu yn Lleweni yn Nyffryn Clwyd, er nad ymddengys enw'r un ohonynt ymhlith bwrdeisiaid cyntaf tref gyfagos Dinbych a restrir yn ei siartr wreiddiol (cyn 1290). Nid oes sail i'r gred mai rhyw ' Syr ' John Salusbury a sefydlodd briordy'r Brodyr Gwyn yn Ninbych ac a gladdwyd yno yn 1289.

Yng ngwrs amser datblygodd y Salbriaid yn Gymry trwyadl a thyfodd stad o gryn faintioli o amgylch Lleweni. Gwŷr o bwys oedd pob un o bum mab THOMAS SALUSBURY (yn ôl Gutun Owain, bu farw 1490, nid ym mrwydr Barnet yn 1470). Dyrchafwyd FFOWC SALUSBURY, y mab hynaf (eto yn ôl Gutun Owain nid yr ail fab, fel y dywedwyd yn y Bywgraffiadur), yn ddeon Llanelwy cyn 1505; yr oedd tri arall, drachefn, yn berchenogion eu stadau eu hunain : Henry Salusbury yn Llanrhaeadr, Robert Salusbury ym Mhlas Isa, Llanrwst, a John Salusbury ym Machymbyd. Etifedd Lleweni ydoedd yr ail fab, THOMAS SALUSBURY (bu farw 1505) a ymladdodd ym mrwydr Blackheath (1497) ac a wobrwywyd gan Harri VII ag urdd marchog - y cyntaf o lu o anrhydeddau a swyddi a ddaeth i ran y teulu trwy gefnogi'r Tuduriaid. Dilynwyd Thomas gan ei fab, Syr ROGER SALUSBURY (bu farw 1530), ac yntau gan ei fab hynaf, JOHN SALUSBURY, a elwir weithiau, er nad yn gwbl sicr yn ' Siôn y Bodiau)', a urddwyd yn ' Knight of the Carpet ' gan Edward VI ar achlysur ei goroni, ac a briododd Jane, merch David Myddleton, Caer (o linach Gwaenynog). Bu'n siryf sir Ddinbych yn 1542 a 1575, siambrlen Gwynedd ac yn aelod seneddol tros ei sir 1547-1552, 1553, 1554 a 1554-5. Yn ystod yr helynt rhwng iarll Leicester ac ysgwieriaid Gogledd Cymru, gofalodd gadw ar yr ochr iawn i'r iarll. Dylid gwahaniaethu'n hollol glir rhwng y Syr John hwn a'i ewythr, JOHN SALUSBURY, pedwerydd mab Syr Thomas Salusbury. Yn y gorffennol, fel mae gwaetha'r modd, priodolid yn gyffredinol weithgareddau'r ewythr i'r nai. Enillodd John Salusbury, yr ewythr, safle amlwg iddo'i hun yn sir Ddinbych yn ystod mebyd ei nai, a hynny fel cynrychiolydd dyfal y brenin Harri VIII; yn y llys daliai'r swyddi o sewer yr ystafell ac ysgwïer o gorff y brenin. Yr oedd yn stiward arglwyddiaeth Dinbych, cwnstabl castell Dinbych, siambrlen cyntaf sir newyddanedig Dinbych, yn siryf yn 1541 ac yn aelod seneddol (ai dros y sir ynteu'r fwrdeisdref, ni wyddys) yn 1539 a 1542 (tros y sir). Yn 1534-5, drachefn, yr oedd y John Salusbury hwn yn aelod o Gyngor Iwerddon yn rhinwedd ei swydd o bennaeth y fyddin Seisnig yn y wlad honno.

Bu farw mab hynaf ac aer Syr John Salusbury, JOHN SALUSBURY arall 12 mlynedd o flaen ei dad yn 1566. Efô ydoedd gŵr cyntaf Catrin, merch Tudur ap Robert o Ferain, yr enwog Catrin o Ferain; bu'n aelod seneddol tros fwrdeisdref Dinbych yn 1554. Gadawodd John ddau fab, THOMAS SALUSBURY, yr hynaf (ganwyd 1561), a ddienyddiwyd fel teyrnfradwr yn 1586, a JOHN SALUSBURY (1566 - 1612), a etifeddodd y stâd ar ei ôl. Ymaelododd John yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 24 Tachwedd 1581, pan oedd yn 14 oed, ac ym mis Tachwedd 1586 priododd Ursula Stanley, merch anghyfreithlon Henry, iarll Derby. Ysgytiwyd y teulu i'r gwraidd pan ddienyddiwyd Thomas Salusbury; bu am gyfnod dan gwmwl, a gorfu i John Salusbury wynebu malais llu o elynion lleol gan gynnwys y gangen iau o'r teulu, Salbriaid Y Rug, â'u tiroedd ar y pryd yn ymledu'n brysur o amgylch Rhuthun, ac â'u bryd ar gipio'r awennau yn sir Ddinbych oddi ar Leweni. Yng Nghaer ym mis Mawrth 1593 ymladdodd John ornest (duel) a'r capten Owen Salusbury, Holt, ac wedi clwyfo Owen gorfu iddo ddianc rhag y gyfraith. Cyfeiria Siôn Tudur at y ffrae hon mewn cywydd a sgrifennodd ar yr achlysur, a gofidia bod y teulu wedi ymrannu (Llanstephan MS 124 (628)). Ymhen dwy flynedd wedi hyn, ym mis Mawrth 1594/5, aeth John i astudio'r gyfraith i'r Middle Temple Inn, ac am y 10 mlynedd nesaf treuliodd lawer o'i amser yn Llundain. Gwasanaethai'r frenhines fel ysgwïer o'i chorff, swydd y penodwyd ef iddi yn 1595. Ym mis Mehefin 1601 urddwyd ef yn farchog gan Elisabeth ei hun, hyn yn ddiamau fel gwobr am y rhan a fu iddo yn llethu gwrthryfel iarll Essex. Chwe mis wedi hynny, ar 16 Rhagfyr etholwyd ef yn aelod seneddol dros sir Ddinbych - bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r ymgais gyntaf i gynnal etholiad ym mis Hydref pan fu ond y dim iddi fyned yn ymdaro o ddifrif yn Wrecsam rhwng Syr John a'i blaid a'i elynion, Syr Richard Trevor, Trefalun; Syr John Lloyd, Llanrhaeadr, a'r capten John Salusbury, Y Rug. Cyfrifai Syr John ei hun yn dipyn o fardd, a chyfansoddodd yn null ei oes ac yn Saesneg amryw o ganeuon serch a sonedau nad ydynt fawr o werth llenyddol, ond sydd, serch hynny, yn taflu goleuni ychwanegol ar beth o ganu Shakespeare a'r beirdd cyfoes eraill (gweler Carleton Brown, Poems by Sir John Salusbury and Robert Chester). Nid ymddengys iddo byth ddychwelyd i Lundain wedi marw Elisabeth, a chymylwyd ei flynyddoedd olaf gan fynych ymdrechion ei elynion i'w ddifrïo yng ngolwg y brenin newydd a'i lys.

Bu farw Syr John 24 Gorffennaf 1612 gan adael stâd Lleweni i'w fab, HENRY SALUSBURY (1589 - 1632), a aeth fel ei dad yn fyfyriwr i Ysbyty'r Middle Temple (ym mis Tachwedd 1607) ac a urddwyd yn farwnig, 10 Tachwedd 1619. Dilynwyd Henry ar ei farw, ddiwedd Gorffennaf 1632, gan ei fab, Syr Thomas Salusbury (1612 - 1643), y bardd a'r ail farwnig, ac yntau, yn 1643, gan ei fab THOMAS SALUSBURY (1634 - 1657/8) a fu farw'n ddibriod 23 Mawrth 1657/8. Etifeddwyd y stad gan ei frawd, JOHN SALUSBURY bu farw 1684) y 4ydd barwnig a'r olaf, a fu'n aelod seneddol tros fwrdeisdref Dinbych 1661-81. Ar ei farw ef yn ddiblant, 23 Mai 1684, daeth y stâd i feddiant ei chwaer, Hester (bu farw 1710), gwraig Syr Robert Cotton, Combermere. Yr oedd yn or-hendaid i Syr Robert Salusbury Cotton a werthodd Lleweni tua 1775 i Thomas Fitzmaurice, brawd ardalydd cyntaf Lansdowne. Priododd trydedd merch Syr Thomas Cotton, Hester Maria, â John Salusbury, Bachygraig (1710 - 1762), llywodraethwr Nova Scotia a disgynnydd o Roger Salusbury (brawd John Salusbury, gŵr cyntaf Catrin o Ferain) a briodasai Ann, merch ar aeres Syr Richard Clough, Bachygraig. Merch i Hester Maria a John Salusbury oedd yr enwog Hester Lynch Piozzi (1741 - 1821).

Awduron

  • Emyr Gwynne Jones, (1911 - 1972)
  • William James Smith
  • Dr Enid Pierce Roberts
  • Thomas Roberts, (1885 - 1960)

    Ffynonellau

  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families ( 1914 ), 222
  • John Williams, Ancient and modern Denbigh a descriptive history of the castle, borough and liberties with sketches of the lives, character and exploits of the feudal lords ( Dinbych 1856 ), 163-73 a The Records of Denbigh and its Lordship bearing upon the general history of the county of Denbigh since the conquest of Wales ; illustrated with many gems of Welsh mediæval poetry never before published ( 1770 ), 190-201
  • E. Bachellery, L'Oeuvre Poétique de Gutun Owain ( Paris 1950 ), 293-7
  • J. Ballinger, Y Cymmrodor, xl, 1-42
  • J. E. Neale yn The English historical review, 1931, 209-27
  • A. H. Dodd yn The English historical review, 1944, 348-70
  • Carleton Brown, Poems by Sir John Salusbury and Robert Chester ( Llundain 1914 )
  • W. J. Smith (gol.), Calendar of Salusbury correspondence, 1553 - circa 1700 principally from the Lleweni, Rûg and Bagot collections in the National Library of Wales ( Caerdydd 1954 )
  • NLW MSS 1553, 1564-5, 5390, 6494-6

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.