SALUSBURY, Syr CHARLES JOHN (1792 - 1868), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: Charles John Salusbury
Dyddiad geni: 1792
Dyddiad marw: 1868
Rhiant: Catherine Salusbury (née Vaun)
Rhiant: Robert Salusbury
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd yn 1792, mab Robert Salusbury (wedi hynny, sef yn 1795, Syr Robert Salusbury, barwnig) a'i wraig Catherine Vaun, aeres Llanwern, sir Fynwy. O ochr ei dad yr oedd yn disgyn o ail briodas Catherine o'r Berain. Dilynodd ei frawd, Syr Thomas Robert Salusbury, ail farwnig, yn 3ydd barwnig yn 1835. Yr oedd yn llenor ac yn hynafiaethydd, yn cymryd diddordeb arbennig yn hanes sir Fynwy. Y mae yn N.L.W. MS. B.R.A. 328 lythyrau a dderbyniodd oddi wrth Richard Llwyd ('Bard of Snowdon'), John Montgomery Traherne, ac eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.