SALUSBURY, JOHN (1575 - 1625), neu John Parry, Jesiwit, ac ysgolhaig

Enw: John Salusbury
Dyddiad geni: 1575
Dyddiad marw: 1625
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Jesiwit, ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yn sir Feirionnydd, 1575, aelod, o bosibl, o deulu Rug. Aeth i goleg y Jesiwitiaid yn Valladolid, 22 Mehefin 1595; urddwyd ef yn offeiriad, 21 Tachwedd 1600, ac ym mis Mai 1603 anfonwyd ef i Loegr lle yr ymunodd yn 1605 â Chymdeithas yr Iesu. Wedi marw'r Tad Robert Jones yn 1615, dilynodd Salusbury ef fel ' Superior of the North and South Wales District,' ac aeth i fyw i gastell Raglan lle y gwasnaethai fel caplan i'r arglwyddes Frances Somerset. Yn 1622 sefydlodd Goleg S. Francis Xavier yn y Cwm ym mhlwyf Llanrhyddol, sir Henffordd, a daeth yn bennaeth arno. Bu farw yn 1625 pan ar fîn ymadael am Rufain i lanw'r swydd o ' procurator,' talaith Lloegr o Gymdeithas yr Iesu. Cyfieithodd Salusbury yn Gymraeg lyfr Eidaleg gan y cardinal Bellarmine dan y teitl Eglurhad Helaethlawn o'r Athrawiaeth Gristnogawl a argraffwyd yng Ngholeg S. Omer, 1618.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.