SALESBURY (SALISBURY), HENRY (1561 - 1637?), gramadegydd

Enw: Henry Salesbury
Dyddiad geni: 1561
Dyddiad marw: 1637?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gramadegydd
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Herbert Parry-Williams

Ganwyd ef ym mhlwyf Henllan, sir Ddinbych - yr oedd ei deulu'n gangen o hen deulu Llewenni. Graddiodd ym Mhrifysgol Rhydychen (S. Alban Hall). Bu'n astudio meddygaeth ac yn gwneud gwaith meddyg. Cyfeiria Dr. John Davies o Fallwyd ato fel ' medicus doctis annumerandus.'

Yn 1593 fe gyhoeddodd ei ramadeg Cymraeg, Grammatica Britannica (Llundain). Ceir hanes hefyd am waith arall a ddechreuodd, sef ' Geirva Tavod Cymraec,' geiriadur Cymraeg - Lladin. Y mae llinellau Lladin a Chymraeg (cywydd) ganddo ar ddechrau llyfr Henry Perri, Egluryn Phraethineb, 1595; gweler argraffiad Gwasg Prifysgol Cymru o'r llyfr hwnnw, 1930.

Bernir mai ef yw'r Henry Salesbury a fu farw yng Nghaer 6 Hydref 1637.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.