RUMSEY, WALTER (1584 - 1660), barnwr

Enw: Walter Rumsey
Dyddiad geni: 1584
Dyddiad marw: 1660
Rhiant: Anne Rumsey (née David)
Rhiant: John Rumsey
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llanofer yn 1584 yn fab i John Rumsey a'i wraig Anne (David). Aeth i Gloucester Hall (Coleg Worcester heddiw), Rhydychen, yn 1600, ac i Gray's Inn (lle y codwyd ef wedyn, 1631, yn ' Bencher') yn 1603; galwyd ef i'r Bar yn 1608, a gwnaeth arian mawr. Yn 1631 penodwyd ef yn farnwr ar y gylchdaith dde-ddwyreiniol yn y Sesiwn Fawr; yr oedd yn aelod seneddol dros sir Fynwy yn y Senedd Fer, 1640. Ochrodd gyda'r brenin yn y Rhyfel Cartref; carcharwyd ef pan gwympodd tref Henffordd fis Rhagfyr 1645; a chollodd ei le fel barnwr yn 1647. Yn 1660, penodwyd ef yn geidwad seliau'r llys yn ei hen gylchdaith, ond bu farw cyn diwedd y flwyddyn, yn 76 oed, a chladdwyd ym meddrod ei deulu yn Llanofer. Ymddiddorai mewn cerddoriaeth, impio coedydd, a llunio pysgodlynnoedd; a chyhoeddodd yn 1657 Organon Salutis (a aeth i dri argraffiad), ar iechyd, yn disgrifio dyfais i lanhau'r gwddf o'r tu fewn, gyda sylwadau ar dybaco a choffi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.