ROWLAND, JOHN (1816? - 1888), awdur Undodaidd

Enw: John Rowland
Dyddiad geni: 1816?
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Walter Thomas Morgan

brodor o Fachynlleth, lle cadwai siop am y rhan fwyaf o'i oes. Dadleuai yn gryf dros yr athrawiaeth Undodaidd ac adwaenid ef yn gyffredin fel ' Yr Undodwr.' Ysgrifennodd amryw bamffledi i amddiffyn ei ffydd, yn enwedig Y Cyff Athrawiaethol; yn nghyd ag amrai o'i ganghenai mewn naw o benodau anerchiadol at Drinodwyr y Byd, 1870. Defnyddiai hefyd farddoniaeth i fynegi ei syniadau diwinyddol a gwleidyddol, yn cynnwys cân hir, Telyn yr Oes; neu Gân ar y Beibl mewn amryw gysylltiadau pwysig i'r byd wedi eu dosbarthu yn dair pennod yn cynnwys dros gant ac wyth o linellau, 1877, a'r baledi Y Llo Aur yn arwain llu, 1880, ac Anerchiad Mr. John Jones i John Bwl, yswain, ar y gwaddoliadau, trethoedd, etc., 1879. Bu farw 12 Ionawr 1888 yn 72 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.