ROWLANDS
,
HENRY
(
1655
-
1723
),
hynafiaethydd
;
g. yn
Plas Gwyn
,
Llanedwen
,
Môn
, mab
William
Rowlands
a
Magdaline
, merch
Edward
Wynne
,
Penhesgyn Isa
,
Llansadwrn
. Nid oes gofnodiad iddo dderbyn addysg mewn unrhyw ysgol na choleg a'r dyb yw mai’ gartref yr addysgwyd ef. Fe'i hordeiniwyd yn
ddiacon
2 Gorffennaf 1682
, ac yn
offeiriad
ymhen pythefnos. Cafodd
fywoliaeth
Llanfairpwll
a
Llantysilio
yn
1682
a
Llanidan
ynghyd â
Llanedwen
,
Llanddanielfab
, a
Llanfair-yn-y-cwmwd
yn
1696
. Ei waith cyntaf oedd
Idea Agriculturae
, a sgrifennwyd yn
1704
ond a fu mewn llawysgrif tan
1764
. Ceir ynddo hanes cyflwr amaethyddiaeth ym
Môn
a'r cyfryngau a ddefnyddid i wella'r tir. Ysgrifennodd ei waith nesaf,
Antiquitates Parochiales
, yn
Lladin
yn
1710
, ond yn y
Cambro-Briton
(cyf. ii) y cyhoeddwyd y trosiad cyntaf o ran ohono, hyd nes ymddangosodd y cwbl yn
Arch. Camb.
1846-9
. Bwriad yr
awdur
oedd cynnwys holl hynafiaethau'r sir, ond rhan yn unig a gwplawyd. Mewn un o'i lythyrau (
N.L.W. Plas Gwyn MS. 105
) cyfeiria
Rowlands
at ail argraffiad o'i lyfr ar ffosilau, ond nid oes wybodaeth amdano. Ei brif waith oedd
Mona Antiqua Restaurata
, a gyhoeddwyd yn
Nulyn
yn
1723
ac ail argraffiad ohono yn
1766
dan olygiaeth y
Dr.
Henry
Owen
. Rhestrir prif hynafiaethau'r ynys a cheisir profi mai ym
Môn
y bu prif sedd y
derwyddon
. Ni bu'n ffodus yn ei ymgais i olrhain tarddiad geiriau
Cymraeg
. Ysgrifennai at
Edward
Lhuyd
,
Browne
Willis
, a
hynafiaethwyr
blaenllaw eraill, a bu ei ddylanwad yn gryf ar ei gyfoeswyr. Gwir mai gau oedd amryw o'i dybiaethau, ond rhaid cofio mai
arloeswr
ydoedd. Iddo ef yr ydys yn ddyledus am
ddiogelu hanes safleoedd o ddiddordeb hynafiaethol
na fuasent yn hysbys onibai am ei ysgrifau. Bu f.
21 Tachwedd 1723
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
, a'r awdurdodau a enwir ynddo;
-
Eminent Welshmen
, 1908
;
-
Richard Parry (‘Gwalchmai’)
,
Enwogion Môn
, 1877
, 153-4;
-
W. Garel Jones
, traethawd M.A.,
1936
(anghyhoeddedig), yn N.L.W., ‘The Life and Work of Henry Rowlands.’
Awdur:
Y Parchedig Ganon Evan Gilbert Wright, M.A., B.D., (1903-1993/4),
Bangor